Cymru v Seland Newydd
Yn lle canolbwyntio ar ochr negyddol (anferth) o'r gêm yma, dw i am ganolbwyntio ar yr un pwynt positif personol gwych. Yn lle cael parti diwedd tymor yn 'stafell gefn rhyw dy tafarn roeddwn i wedi trefnu bws i'r Cae Ras ar gyfer tîm dan-9 Y Fali.
Dyma'r tro cyntaf i'r mwyafrif ohonnyn nhw fod mewn gêm bêl-droed, heb sôn am gêm rhyngwladol ac roedd gweld y cyffro ar eu hwynebau'n gwneud yr holl stress o drefnu'r daith werth chweil.

Dw i off i Eisteddfod yr Urdd am yr wythnos felly na'i drio postio cyn y gêm yn erbyn Y Weriniaeth Siec, ond does na'm sicrwydd, felly tan hynny ... wela'i chi yn y 'singing section'!

Labels: cae ras, cymru, fali, pêl-droed, seland newydd
« Dolen flaen | Nesaf »
am 8:58 PMPwy ddiawl sy'n cysgu'n y cefndir??
» Post a Comment