Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Arwr y tymor: John McDermott

Wrth wylio hen dapiau Match of the Day o dymor 1991/92 wythnos diwethaf - y tymor welodd Leeds yn ennill yr hen Adran Gyntaf - mae'n gwneud i rhywun sylweddoli faint mae pêl-droed wedi newid mewn 15 mlynedd.

I ddechrau hefo hi, mae'n rhaid i mi 'sgwennu hen Adran Gyntaf neu fydd pobl ddim yn sylweddoli mod i'n sôn am yr adran uchaf yn Lloegr!

Wedi disgyn dwy adran ers 1992, mi fydd Leeds yn chwarae yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf a hynny oherwydd yr holl newid enwau hurt sydd wedi bod ers creu'r Uwchgynghrair.

Cafodd yr hen Ail Adran ei galw'n Adran Un am sawl blwyddyn wedi i'r hogia mawr creu eu clwb bach elitaidd. Yna, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd y bois tipyn bach llai na'r bois mawr eu bod nhw eisiau enw snazzy hefyd ac felly cawsom ni'r Bencampwriaeth.

Oherwydd hyn mae Leeds, fydd yn chwarae yn yr hen Drydedd Adran y tymor nesaf, yn chwarae yn Adran Un!

Beth bynnag, yn y dyddiau yma o gyflogau hurt, o chwaraewyr O Ariannin, bygthiadau llys a pherchnogion o dramor, roedd yn braf clywed am gamp John McDermott.

Yn ystod y gêm rhwng Amwythig a Grimsby ar Sadwrn olaf y tymor, roedd McDermott yn gwneud ei 753in ymddangosiad i Grimsby - yr unig glwb mae o wedi ei gynrychioli yn ystod ei yrfa.

Ac wrth iddo adael y maes cafodd McDermott ei gymeradwyo gan y ddau set o gefnogwyr - cefnogwyr sydd yn deall ac yn gwerthfawrogi dyn oedd yn amlwg yn caru ei glwb ac yn amlwg yn gwerthfawrogi mai braint yw cael bod yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol.

Mae pêl-droed yn fyw ac yn iach yn yr is-adrannau a phetai mwy o bobl yn sylweddoli hynny byddai'n llawer, llawer gwell ar bêl-droed Ynysoedd Prydain sy'n dioddef ar y funud gyda'r cefnogwyr yn methu uniaethu â chwaraewyr sydd ar gyflogau anferthol.

Pryd fydd y papurau newydd y sylweddoli nad ydi dau neu dri chwaraewr rhyngwladol Chelsea'n anafu yn 'argyfwng' a bod y rhan fwyaf ohonnom ni wedi cael llond bol ar glywed yr holl millionaires ma'n cwyno.

Labels: , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment