Siom, siom, siom ...
Tydw i ddim yn siwr iawn be 'dwi am sgwennu heddiw. Mae wedi cymryd bron i 48 awr cyn fy mod i'n gallu wynebu darllen negesfwrdd Red Passion neu darllen y Daily Post.Roeddwn yn hynod, hynod siomedig wedi i'r Dreigiau golli ddydd Sadwrn, a hynny gan bod y perfformiad yn yr ail haner cymaint, cymaint gwell na'r hyn 'da ni wedi ei gael yn ddiweddar - na'i ddim sôn dim am y perfformiad trychinebus yn Macclesfield.
Roedd hyd yn oed rheolwr Notts County yn ymddiheuro am y fuddugoliaeth wedi'r gêm - sgoriodd County gyda'u hail ymosodiad o'r ail haner- a hynny wedi 87 munud - wedi i Jeff Whitley, Chris Llewellyn a Lee McEvilly daro'r trawst/postyn.
'Dwi wedi dechrau meddwl y gwaethaf ac ar negesfwrdd One Touch Football 'dwi wedi bod yn holi ymateb cefnogwyr Rhydychen i fywyd yn y Conference. Esgusodwch yr iaith fain, ond dyma ymateb un:
Basically, it might be something different to experience, but I wouldn't want it to last more than a season. Trouble is, with only one automatic promotion place it's the hardest league to get out of (at the top end), so if you have the choice, I would opt to avoid relegation.
Ia ... ond petai mor hawdd â hynny ...
Labels: conference, onetouchfootball, pêl-droed, wrecsam
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment