Talu i wylio pwy?
Gan nad yw Wrecsam yn chwarae tan yfory (y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caer) bues i'n gwylio fy 'ail dîm', sef Hotspur Caergybi, yn erbyn Lex XI.Yn ystod yr hanner cyntaf o'r gêm cefais fy nghythruddo gan y dyfarnwr - dim byd newydd yn fana, medde chi - ond dim oherwydd penderfyniad hurt cefais fy nghythruddo, ond am rhywbeth hollol hurt ddywedodd y dyn.
Rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Lex yn ystod yr hanner cyntaf - roedd yn un o'r penderfyniadau 'na all fynd y naill ffordd neu'r llall - ond nid dyna oedd wedi fy nghythruddo. Wedi'r digwyddiad yng nghwrt cosbi Hotspur, penderfynodd y dyfarnwr fod y drosedd yn haeddu cerdyn melyn - ond, er ei fod yn bendfyniad llym i roi cerdyn melyn, nid dyna oedd edi fy nghythruddo.
Galwodd y dyfarnwr ar amddiffynnr Hotspur, Gerallt Jones, er mai nid fo oedd yn gyfrifol am y drosedd ac er i gapten Hotspur geisio'i ddarbwyllo mai nid fo oedd yn gyfrifol am y drosedd ac er i chwaraewyr Lex (chwarae teg) erfyn ar y dyfarnwr i ddefnyddio synnwyr cyffredin gan dweud mai nid Gerallt oedd yn gyfrifol am y drosedd.
Ond nid dyna oedd wedi fy nghythruddo.
Fel pob cefnogwr pêl-droed, mae angen dweud eich dweud a chan fod y dyfarnwr yn sefyll o fewn 10 lath i mi penderfynias ddweud wrtho pa mor sâl oedd ei benderfyniad ...

... a wyddoch chi beth oedd ei ateb (yn yr iaith fain, wrth gwrs)?
"Ia, ond o leiaf 'dwi'n cael fy nhlau i fod yma tra bo chdi a dy fêts yn gorfod talu i fy ngwylio.
Talu i wylio PWY? Mam bach, roedd ei agwedd trahaus yn troi arna fi ... talu i wylio'r DYFARNWR? Roeddwn i a'r bych wedi talu i wylio gêm o bêl-droed nid er mwyn gwylio'r dyfarnwr yn strytio'i stwff ... roedd y boi yma'n meddwl bod y gêm yn troi o'i gwmpas o ...
Yn ôl y dyfarnwr, nid oeddwn i yno er mwyn gwylio
- golwr Caergybi, Merfyn Williams, yn gwneud camgymeriad erchyll ar ochr ei gwrt cosbi wrth ildio gôl gyntaf Lex.
- Merf yn gwneud yn iawn am ei gamgymeriad ac arbed y cic o'r smotyn dan sylw.
- ymosodwr 'profiadol' Hotspur, Nigel Moore, yn rhwydo dwy gôl hyfryd yn yr hanner cyntaf i roi Hotspur ar y blaen
- perfformiad arwrol gan un o chwaraewyr Lex, arbedodd llu o gyfleon yn yr ail hanner wedi i golwr Lex gael ei hel o' maes
O, na, roeddwn i wedi talu er mwyn ei weld o ...
PAH!
Gyda llaw, Caergybi enillodd 6-2
Labels: caergybi, dyfarnu, dyfarnwyr, hotspur, pêl-droed
« Dolen flaen | Nesaf »
am 3:21 PMO. Nad wyt yn mynd i weld y refs? Efallai dyna pam nad ydw'n ffan o pel-droed -- yr wyf yn edrych ar y pethau anghywir.
am 12:15 PM
Croeso i fyd Dyfarnwyr y Cymru Alliance :)
Dwi wedi gorfod brathu fy nhafod lawer gwaith tra'n eu cludo o'r cae yn fy swydd answyddogol fel stiward gyda C.P.D Bodedern.
am 11:58 PM
Dwi wedi gweld gwaeth yng Nghaergybi - y dyfarnwr Keith "bungalo" Evans yn rhoi 3 cerdyn coch i'r UN CHWARAEWR!!!
(Phil Pritchard o Borthmadog oedd y chwaraewr gyda llaw)
am 6:33 PM
mae'n rhaid cofio er bod y creadur bach yn y canol wedi colli ei ben braidd mae hi'n hen dasc anodd i gadw trefn ar 22 0 chwareuwyr,a'r rheolwyr a'r cefnogwyr hefyd.Mi roedd my mab syn 16 oed yn redeg un or llinelli ag roedd y llinellwr arall o brofiad mawr yn y canol hefyd,ond hoffwn i waebod sawl ohonom a fentri ir canol ein hunain .Yn arbenig arol iddynt gael ei galw yn bob enw dan yr haul,roedd un creadur o bwllheli yn meddwl bod junior yn ben-coc y pen wythnos diwethaf ,ond iddo gael mynd adref cyn pawb arall ar y cae,idiot. Fellu ar ol gweld beth mae nhw'n cael ei galw fentrwn i iddynt gael yr hawl i'r od blip yma ac acw ac yr hawl i audience hefyd!!!
am 7:58 PM
dewi, ti'n camddeall - 'di wedi bod yn ddyfarnwr fy hun a 'dwi'n ymwybodol nad ydi hi'n dasg hawdd, ond os ydi'r boi yn meddwl mod i wedi talu i'w wylio ef, yna mae o yn y swydd anghywir!
» Post a Comment