Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Rhun Owens

Cefais fraw i glywed bod ysgrifennydd CPD Aberystwyth, Rhun Owens, wedi marw yn dilyn brwydr hir yn erbyn cancr. Er na chwrddais i â Rhun erioed, roeddwn wedi siarad ag ef droeon yn rhinwedd fy swydd. Roedd ei gariad a'i angerdd tuag at CPD Aberystwyth yn amlwg ac yn ogystal ag Aber, roedd Rhun yn gefnogwr brwd o bêl-droed yng Nghymru.
Roedd yn barod am sgwrs pob amser ac ar sawl achlysur, cawsom drafodaeth hir a dwys am ddyfodol byd y bêl gron yng Nghymru. Bydd pêl-droed Cymru yn dlotach iawn heb Rhun Owens.

Hoffwn estyn pob cydymdeimlad i'w deulu ei ffrindiau ac i Glwb Pêl-droed Aberystwyth

Labels: , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 10:10 AM Blogger Siôn ddywedodd ...

Newyddion trist iawn. Roedd y gwaith oedd Rhun Owens yn neud ar gyfer CPD Aberystwyth yn anhygoel. Fydd yna golled mawr ar ei ol - fel ysgrifenydd ac wrth gwrs fel person hynod gyfeillgar.    



» Post a Comment