Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Tic arall yng Nglwb 92

Cefais i'r fraint o ymweld â Pride Park, Derby ddoe a gyfer gêm Wrecsam yn Nrhydedd Rownd Cwpan FA Lloegr - cae newydd i mi ac felly rhif 55 ar y rhestr o 92 clwb ('dwi wedi colli Doncaster Rovers ers ddechrau'r flwyddyn wedi iddyn nhw symud i stadiwm newydd).

Cefnogwyr Wrecsam yn Pride Park

Roedd bron i 3,000 o gefnogwyr Wrecsam (2,992 a bod yn fanwl gywir) wedi teithio i lawr yr A50 i gefnogi'r tîm, a tan i Derby sgoriodd eu trydedd gôl, dim ond y Cymry oedd i'w clywed o amgylch Pride Park.
Cafwyd perfformiad calonogol iawn gan Wrecsam, er y golled. Roedd Steve Evans yn gawr yn yr amddiffyn unwaith eto, ac os yw'r sibrydion am Leeds United yn wir, yna fe brofodd ddoe ei fod â'r gallu i chwarae ar lefel y Bencampwriaeth.

Roedd David Jones, chwaraewr canol cae Derby sydd y gymwys i chwarae dros Gymru, yn arbennig i'r tîm cartref. Mae ganddo draed chwim ac roedd ei basio a'i symudiadau yn ei gwneud yn amlwg pam fo'r Rams wedi talu £1 miliwn i Manchester United amdano. Er nad wyf yn hoffi'r ffaith ei fod yn dal i bendroni petai Cymro neu Sais ydi o, byddwn i'n sicr yn hapus ei weld yng nghanol cae Cymru.

Labels: , , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 11:57 AM Blogger Rhys ddywedodd ...

This post has been removed by the author.    



am 11:59 AM Blogger Rhys ddywedodd ...

Yn ddiweddar fe gwrddais â dysgwr o Fedwas (ond o Gasnewydd yn wreiddiol) sy'n cadw ei restr '92' ei hun. Mae o ar ganol ei 80'au ar hyn o bryd. Efallai daw gyda Chochion Caerdydd i Barnet tymor yma.

Jonathan ydi ei enw ac mae'n teithio i gemau oddicartref Cymru gyda chri Richard o Bwllheli.

Dwi wedi creu map 'clwb92' fy hun sy'n cynnwys 28 maes, ond mae'r rhestr yn cynnywys maesydd Cyngrhair Cymru a thramor.    



» Post a Comment