Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Eire we go again ...

Mae Caerdydd wedi arwyddo ymosodwr Shelbourne, Jason Byrne, heddiw a hyn wythnos wedi'r clwb gwblhau trosgwlyddiad y golwr David Forde o glwb Derry City. Felly pam bo Caerdydd wedi cymryd diddordeb yng Nghynghrair Eircom erbyn hyn a pham nad ydynt yn sgowtio Uwchgynghrair Cymru am chwaraewyr?

Pam fo cymaint o chwaraewyr Uwchgynghrair Cymru wedi mynd i chwarae yng nghynghrair Lloegr gyda clybiau Seisnig? Lle oedd Caerdydd, Abertawe a Wrecsam i arwyddo'r chwaraewyr yma, chwaraewyr fel Alan Goodall (Rochdale), Glyn Garner (Leyton Orient) neu Eifion Williams (Hartlepool)?

Chwaraeodd Gary Roberts i Fangor a'r Trallwng ond roedd angen iddo symud i Accrington cyn i glwb yn y Bencampwriaeth gymryd sylw ohonno. Yn yr un modd, bu rhaid i Adebayo Akinfenwa symud i Torquay via Boston cyn i'r Swans ei arwyddo, er ei fod wedi treulio amser ar i lawr yr M4 ar Barc Jenner, ac roedd Forde hefyd gyda'r Barri cyn iddo symud i Iwerddon.

Pam nad oes unrhyw un o'r tri clwb Cymreig wedi bod yn edrych ar Jacob Mingorance yn Llanelli neu Adam Dickinson o Gei Connah ac rwy'n siwr byddai unrhyw un o'r tri wedi gallu gwneud efo sgoriwr goliau fel Marc Lloyd-Williams pan oedd Jiws yn ei anterth.

Labels: , , , , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 4:04 PM Blogger Dewi ddywedodd ...

Chwarae teg eusebio. What a load of rubbish!

Os den nhw di mynd mlaen i chwarae fo Torquay a Rochdale ti'n iawn. Ni'n ffylied i beidio a'u pigo i'n tim yn y Bencampwriaeth!!!!

Delaney yw un o dim ond dau chwaraewr i chwarae peldroed ar y lefel ucha o'r ligo am wn i. Oni'n mynd i ddeud chwaraewyr o'r safon ucha, ac mi wnaethon ni ei arwyddo fo.

Collins di'r un gollo ni allan arno, thank fuck.    



am 5:15 PM Blogger Gareth ddywedodd ...

Fel cefnogwr o'r Pyramid Cymreig, mae gen i deimladau cymysg. Os nad ydi'r chwaraewyr gorau yn aros, yna neith y safon ddim codi. Ond ar lefel bersonol, mae wastad yn beth da gweld chwaraer yn llwyddo ac yn pwyso ymlaen gyda'i yrfa.

Yn achos Goodall, sais o ochrau Maenceinion oedd o, felly dydi o a Jimmy McNulty yn arwyddo i glybiau lleol fawr o syndod. Mae gan Wrecsam record gwell. O dop fy mhen rwan allaf feddwl am Paul Roberts, Gareth Evans, Lee Trundle a Steve Evans sydd wedi gwneud y symudiad. Rhai yn llwyddiant, rhai ddim. Mi fuodd Wrecsam mewn sefyllfa anodd lle nad oedd hi'n bosib arwyddo chwaraewyr hefyd, i fod yn deg. Mi oeddynt eisiau arwyddo Owain Tudur ymhell i Abertawe ddod i'r brig.    



am 8:33 PM Blogger Gary ddywedodd ...

Dewi, pan arwyddodd y rhan fwyaf o'r chwaraewyr uchod i glybiau Seisnig, doedd caerdydd ddim yn y Bencampwriaeth - tîm trydydd adran oeddech chi ... hei, dim ond tîm ail adran yda chi rwan!    



» Post a Comment