Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Casau clybiau eraill

We hate Nottingham Forest,
We Hate Everton too,
We Hate Man United,
But ___________ we love you.

(Llenwch y bwlch)

Oce, efallai mod i'n dangos fy oed erbyn hyn, ond doedd neb yn casau Chelsea rhyw lawer yn y 70au! Ac er bod y wasg yn honni bod pawb yn casau criw Mourinho, mae'n rhaid mi ddweud fy mod i'n casau Caer ac Amwythig mwy nag y byddai byth yn casau Man United, Everton neu hyd yn oed Nottingham blymin' Forest!

Beth bynnag, ar Ar y Marc, cawsom air â chefnogwr Bangor - clwb sy'n gwybod yn iawn sut i gasau clybiau eraill!

Labels: , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 10:43 AM Anonymous y dyn sdici ddywedodd ...

Can cefnogwyr Lerpwl yw hon, wrth gwrs, (gyda'r geiriau "They're sh*t!" yn cael eu gweiddi ar ôl 'Everton too'.    



am 11:01 AM Anonymous y dyn sdici ddywedodd ...

Gyda llaw, mae'r gan yn dod o ddiwedd y saithdegau a dechrau'r wythdegau, pan ddechreuodd Forest yn ein curo yn gyson yn y gyngrhair.
Roedd ffeinals Cwpan y Gyngrhair yn golledion a arhosodd yn y cof, yn arbenig. Yn enwedig yr un pan sgoriodd John Robertson benalti (mewn replay os dwi'n cofio'n iawn) - a'r drosedd wedi digwydd tu allan y bocs.

A mi guron nhw ni yng Nghwpan Ewrop, a mynd ymlaen i ennill y blydi peth yn 1979 (Trevor Francis, diving header yn erbyn Malmo) ac yn 1980. Blydi cheek! A ninnau efo'n henwau ar y gwpan 'na ar y pryd! ;-)

Dal i gasau Forest ers hynny. Dwi ddim yn casau Everton cyn gymaint - mwy o reifalri ydio. Mae hyn am nad ydw i'n Sgowsar. I'r sgowsars mae o chydig mwy na reifalri.

Ond does dim mwy o gasineb na'r casineb yn erbyn ManU! O na! Mae hwn yn gasineb perffaith! O yndi.

Chelsea? Rhaid cyfadda mod i wedi dechrau casau Chelsea rhyw ychydig. Oherwydd y ffaith iddyn nhw, fwy neu lai, 'brynu'r' Bencampwriaeth. Er, rhaid dweud fod Mourinho yn un o'r rheolwyr gorau ar y blaned 'ma. Ac er rhai o'r pethau hurt mae o'n gallu wneud (fel peidio ysgwyd llaw ar ôl gêm, a cyhuddo bobol o ddeifio ac ati), dwi'n licio ei gymeriad o hefyd. Mae o'n dod a dipyn o liw i'r gêm.

Wrth gwrs, dwi'n casau Rangers gymaint a Man U. Mae hyn oherwydd y gwleidyddiaeth a'r sectaraiaeth ffiaidd ac afiach sydd ynghlwm efo'r clwb.

Dwi'n casau Caer ac Amwythig hefyd, yndw, oherwydd y peth Cymru/Lloegr 'ma - trefi ffin, efo hanes gwrth-Gymreig ers dyddiau'r Mers!

Be am bôst yn son am y clybiau wyt yn licio, hefyd, Gary? Mae gen innau dwr o glybiau dwi'n licio/barchu. Mae'n ddifyr yndydi?    



am 1:29 PM Blogger Gary ddywedodd ...

Peys, oeddet ti'n gwybod mai Lerpwl sydd wedi gwario mwy na pawb (heb law Chelsea) ar chwaraewyr a tyda chi dal ddim o fewn cyrraedd y bencampwriaeth!!

... timau' dwi'n hoffi? Syniad da ... watch this space ;)    



am 8:23 PM Anonymous y dyn sdici ddywedodd ...

na, doeddwn ddim yn gwbod, ond ddim yn synnu.

Ond mae'r bwlch rhwng y gwariant yn go fawr yndydi? Sy'n mynd hanner ffordd i egluro pam fod Chelsea wedi gwario'n dda, a Lerpwl wedi gwario'n gymharol sâl. Yr hanner arall ydi judgement Rafa - dio ddim wedi bod ar ei orau.
(Pam na wnaeth o brynu Solano pan oedd o ar gael???) M
ae Gonzalez yn haeddu chydig o amser. Ond Pennant???!!! Aaaaaargh! Heb son am... wel, dwi ddim yn mynd yna... nai aros yn loyal - am rwan!

(A mae o ar ôl Mascherano wan! Duw a'n helpo ni!)    



» Post a Comment