Aelodau'r Cynulliad yn bygwth yr FAW
Mae hi wedi bod yn wythnos prysur a chythryblus i'r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru wedi i bwyllgor y Cynulliad sydd yn gwneud arolwg o'r gamp yng Nghymru feirniadu'r FAW am beidio fynd ger eu bron.
Yn bersonol, dwi'n tueddu i gytuno efo ysgrifennydd y gymdeithas, David Collins ... rhywbeth nad ydw wi'n ei wneud yn aml iawn - yr unig dro arall i mi gofio cytuno efo Mr Collins oedd pan y gwrthododd ymuno â Lloegr a Gogledd Iwerddon a cheisio creu tîm Prydeinig ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.
Mae cymdeithasau llawer mwy na Chymru, fel Gwlad Pwyl a Gwlad Groeg wedi eu gwahardd gan Fifa oherwydd ymyraeth gan eu llywodraethau.
Y rheswm i Wlad Groeg, sydd yn bencampwyr Ewrop, gael eu gwahardd oedd ymyraeth y Gweinidog Chwaraeon, George Orfanos. Dywedodd Orfanos fod yr HFF (Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Groeg), sy'n derbyn arian gan y llywodraeth, â system bleidleisio gwrth-ddemocrataidd.
Sydd ddim mor annhebyg i'r hyn mae pwyllgor y Cynulliad yn fygwth:
Yn amlwg, nid penderfyniad gwleidyddion ddylai hyn fod, ond penderfyniad Fifa ac Uefa - ys gwn i os yw'r aelodau cynulliad yma'n credu eu bod yn gwneud peth da trwy fygwth bodolaeth y tîm cenedlaethol?
ON
Dyma'r tystiolaeth gafodd ei gyflwyno i'r pwyllgor

"We want more democratic voting rules - rules that apply to all other sporting federations in Greece. If they insist, state protection will be withdrawn."
Sydd ddim mor annhebyg i'r hyn mae pwyllgor y Cynulliad yn fygwth:
"without necessary change, governing body status could be removed from the FAW".
Yn amlwg, nid penderfyniad gwleidyddion ddylai hyn fod, ond penderfyniad Fifa ac Uefa - ys gwn i os yw'r aelodau cynulliad yma'n credu eu bod yn gwneud peth da trwy fygwth bodolaeth y tîm cenedlaethol?
ON
Dyma'r tystiolaeth gafodd ei gyflwyno i'r pwyllgor
Labels: cymru, cynulliad. gwleidyddiaeth, faw, fifa, pêl-droed, uefa
« Dolen flaen | Nesaf »
am 11:09 PMDwi'n meddwl dylai'r perthynas rhwng yr FAW a'r cynulliad fabwysiadu rhywbeth tebyg i'r un rhwng y BBC a San Steffan. Mae'r Cynulliad yn ariannu ac yn berchen ar y FAW, ond fod cyfansoddiad yn gwrthod unrhyw reolaeth gan rywun o fewn y llywodraeth. Llywodraethu'r FAW yn ôl gofynion pwyllgor a phleidleisiau gan pob tîm sydd yn dwad o dan eu hadain.
am 8:45 AM
Dwi'n anghytuno. Ni ddylai'r gymdeithas Bêl-droed fod yn berchnogaeth unrhyw gorff gwleidyddol.
am 4:52 PM
Dyfroedd yn corddu yn AFC Wimbledon acw...
» Post a Comment