Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

578 nid 500!

Roedd ffys a ffwdan mawr ddydd Sadwrn diwethaf wrth i'r wasg Seisnig wneud yn fawr o'r ffaith fod y Cymro, Gary Speed, yn chwarae ei 500ed gêm yn Uwchgynghrair Lloegr.
Da iawn fo, mae hi'n gamp aruthrol i Speed ac ydi, mae'n haeddu'r canmoliaeth ... ond ... nid dydd Sadwrn diwethaf ddylai pawb fod wedi bod yn ei longyfarch, wedi'r cwbwl, chwaraeodd Speed 78 o gemau i Leeds yn yr Adran Gyntaf cyn i'r Uwchgynghriar ddod i fodolaeth.

Gallaf ddeall pam fod Sky ac Yncl Rupert yn barod i redeg y fath benawdau, wedi'r cwbwl mae Sky wedi llwyddo i greu eu busnes ar gefn Uwchgynghrair Bêl-droed Lloegr ac mae nhw'n fel petaent yn gwrthod cydnabod bod pêl-droed wedi bodoli cyn 1992, ond rwan mae'r BBC yn ymuno yn y ffolineb.

Roedd pêl-droed yn bodoli cyn i'r clybiau mwyaf yn Lloegr dorri'n rhydd a chreu'r Uwchgynghrair, ac mae un peth yn mynd o dan fy nghroen byth er hynny sef y geiriau "cyntaf yn yr Uwchgynghrair" ... "erioed yn yr Uwchgynghrair" ... "sgôr uchaf yn yr Uwchgyngharir" ac yn y blaen.

Mae sôn am bêl-droed yn y termau yma yn amddifadu'r gamp o'i hanes. Yda ni fod i gredu nad yw llwyddianau Lerpwl yn y 70au yn berthnasol i bêl-droed heddiw? Beth am gampau Nottingham Forest a Derby County o dan Brian Clough neu Huddersfield Town gyda Herbert Chapman wrth y llyw yn ystod y 1930au? Gadewch i Sky geisio perswadio'r cenhedlaeth o gefnogwyr cadair gyfforddus mai 1992 yw'r flwyddyn holl bwysig yn hanes y bêl gron yn Lloegr, ond rydm ni, gwir gefnogwyr pêl-droed, yn gwybod yn well.

Labels: , , ,

| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment