Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Fydd y Dreigiau'n moli Molanga ?

Wedi clywed bod Denis Smith wedi arwyddo Maheta Molanga ar fis o fenthyg o Brighton & Hove Albion, es i'n syth i'r un lle mae pob cefnogwr pêl-droed yn mynd er mwyn cael manylion chwaraewyr newydd ... www.soccrbase.com
Mae'r safle yma'n fendigedig ac yn llawn pob ystadegun sydd ei hangen ar anorak pêl-droed; gemau, goliau, nifer o gardiau melyn, clybiau ... popeth.

Yn ôl soccerbase, mae Molanga wedi bod ar fenthyg ag Oldham Athletic yn barod tymor yma, felly dyma fynd i holi ambell i gefnogwr Oldham ar negesfwrdd When Saturday Comes.

Nid oedd ymateb cefnogwyr Oldham yn codi calon dyn:
"oh, dear"
"absolute joker"
"I'm glad we only signed him on loan"

oedd tri o'r sylwadau mwyaf caredig glywais!

Tydi hi ddim yn argoeli'n dda!
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment