Yr X Factor
Mae ymgyrch wedi bod yn ddiweddar i hybu mwy o ddefnydd o'r Gymraeg ar Y Cae Ras, sy'n amlwg yn beth da, ond mae'r ymgyrch yn dod yn fwy fwy arwyddocaol erbyn hyn.
Yda chi'n cofio'r hen gwestiwn cwis:
Cwestiwn: Enwch pump o glybiau'r gynghrair sydd efo X yn eu henwau
Ateb: Halifax Town, Exeter City, Oxford United, Wrexham a Crewe Alexandra
Wrth gwrs, mae'r rhai sylwgar yn eich mysg wedi sylwi nad yw Halifax, Exeter ac Oxford yn y gynghrair bellach. Disgynodd Halifax allan o'r gynghrair yn 2002, dilynodd Exeter y Shaymen i lawr i'r Conference yn 2003 ac yna yn 2005, collodd Oxford eu lle yn y gynghrair.
Rwy'n poeni'n arw bod y patrwm yn mynd i barhau ac, yn dilyn y rhediad trychinebus diweddar, rwy'n erfyn ar swyddogion y clwb i gymryd camau cyflym i newid enw'r clwb i Glwb Pêl-droed Wrecsam cyn ei bod yn rhy hwyr!

« Dolen flaen | Nesaf »
am 1:20 PMDa rwan Gary!
» Post a Comment