Mam bach!
Wel, lle uffar mae rhywun yn dechrau? 5-1 ... 5 blydi 1 ... yn erbyn tîm fyddai'r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru'n ei chael yn anodd i ddarganfod ar fap.
5-1?? Blymin 'eck ... Wel, dyma gyfaddefiad cyn i ni ddechrau - nes i adael cyn y diwedd. Am y tro cyntaf erioed nes i adael cyn chwiban olaf y dyfarnwr - nes i weld y chwe gôl, ond nes i ddim gweld y deng munud olaf.
Y cwestiwn cyntaf sydd rhaid ei ofyn yw be goblyn oedd ar ben Paul Jones yn cael y fath steil gwallt - mae'r boi yn hyn na fi! Mae golwyr yn debygol o gael eu ceryddu ddigon gan y cefnogwyr fel mae, heb iddynt fynd a rhoi rheswm i'r cefnogwyr eu gwawdio.
Roedd Richard Duffy yn warthus a byddai Rob Edwards wedi bod yn fwy defnyddiol petai wedi eistedd drws nesaf i mi yn rhes 17 o'r Stand Gogleddol. Mae Gareth Bale yn cael ei esgusodi oherwydd ei gôl wych a'i ymosodiadau bendigedig i lawr y chwith yn yr hanner cyntaf.
Heb unrhyw uchder yn y llinell flaen roedd yr holl symudiadau celfydd i lawr yr esgyll a'r peli hyfryd i'r cwrt cosbi yn wastraff llwyr - yn anffodus ni fydd Hartson ar gael nos Fercher felly mae'n anodd gweld sut bydd Tosh yn newid pethau cyn herio tîm drechodd Iwerddon 5-2 nos Sadwrn.

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment