Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Hapus fy myd?

'Dwi wedi esgeuluso'r blog yn ddiweddar, ac efallai bydd nifer ohonnoch yn credu bod hynny oherwydd sefyllfa ddifrifol Wrecsam ar y maes - un buddugoliaeth mewn naw gêm cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Bristol Rovers ddydd Sadwrn. Ond er fy mod y poeni am berfformiadau'r tîm ar y maes - yn enwedig pan fo Denis Smith yn mynnu fod Chris Llewellyn yn ymosodwr - rwyf yn ddigon hapus fy myd o gymharu â chefnogwyr Caerdydd.

Ia, rwy'n gallu clywed yr ebychiad o fan hyn - "Ond mae Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth, ar fin dechrau adeiladu stadiwm newydd ac yn chwarae o flaen torfeydd o 18,000 a mwy ..." medde chi. Ydi, ond mae'r clwb dros £30m mewn dyled a chyda person wrth y llyw lwyddodd i chwalu clwb llawer mwy na Caerdydd.

Cefais y ddadl yma gydag un o leisiau mwyaf adnabyddus pêl-droed Cymru ddydd Sadwrn.
"Felly ti'n dweud bod well gen ti hyn [Wrecsam yn Adran Dau a charfan fechan o chwaraewyr] na beth sydd yn digwydd ar Barc Ninian?" gofynodd. Ac mae'n rhaid mi gyfaddef mai "ydw" oedd yr ateb.

Mae Eric The Red yn gallu adlewyrchu cefndir y sefyllfa ar Barc Ninian a chwmpasu teimladau cefnogwyr Caerdydd yn llawer gwell na fi, ac mae ei flog wedi bod yn llawn erthyglau difyr tu hwnt yn ddiweddar.
Ond wrth edrych ar y sefyllfa o'r tu allan, rwy'n clywed Peter Ridsdale yn dweud ei fod wedi dysgu ei wers yn Leeds, ond eto'n sôn am fuddsoddwyr tymor byr a'r hedge funds bondigrybwyll 'ma.

Y rheswm bo Leeds mewn cymaint o dwll yw bo Ridsdale a'i griw wedi benthyg arian mawr ar sail cyrraedd Cynghrair y Pencampwyr ... ac yna wedi methu sicrhau eu lle yn Ewrop. Erbyn hyn mae Ridsdale yn crybwyll benthyg arian mawr ar sail cyrraedd Uwchgynghrair Lloegr ac incwm y stadiwm newydd ... a beth sy'n digwydd petai'r Adar Glas yn methu? Cofiwch bod Leeds yn glwb llawer mwy na Chaerdydd ac mae nhw'n ei chael yn anodd tua gwaelodion y Bencampwriaeth oherwydd y twll ariannol enfawr yn Elland Road, byddai sefyllfa debyg ar Barc Ninian yn drychinebus - ar y gorau byddai'r cefnogwyr yn gallu gobeithio bod y clwb yn parhau i fodoli yng ngwaelodion y gynghrair, ond ar y gwaethaf ... wel, pwy â wyr?
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment