Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Giggs yw chwaraewr y flwyddyn

Ryan Giggs sydd wedi ennill tlws Chwaraewr y Flwyddyn Cymru 2005, ond mae'n rhaid cyfaddef nad yw'n sioc aruthrol ... pwy arall fyddai wedi gallu ennill y wobr ...?

A dweud y gwir, mae'n adlewyrchiad anferth o safon carfan diweddaraf John Toshack mai ymysg y chwaraewyr ifanc oedd y frwydr mwyaf am wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.
Lewin Nyatanga gipiodd y wobr ond roedd nifer yn awgrymu mai Gareth Bale fyddai'n ei hennill ac mae'n rhaid i mi gyfaddef mai Joe Ledley gafodd fy mhleidlais i.
Do, fe lwyddodd Nyatanga i sefydlu record newydd am fod y chwaraewr ieuengaf i ennill cap dros Gymru ym mis Mawrth, a do, fe dorrodd Bale y record dau fis yn ddiweddarach. Ond mae Ledley wedi sefydlu ei hun yn nhîm Caerdydd ac mae'n chwarae o wythnos i wythnos yn y Bencampwriaeth. Yn anffodus, nid yw Nyatanga a Bale wedi cael y fath effaith yn Derby County a Southampton.

Roeddwn yn falch iawn o glywed mai Mark Jones gipiodd y wobr i Chwaraewr o Glwb Cymreig. Mae ei berfformiadau dros Wrecsam wedi bod yn wych ac mae ei ddylanwad ar Y reigiau'n anferthol - gobeithio gall ddathlu'r wobr â chap yn erbyn Slofacia neu Cyprus!
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment