Ffeit, ffeit, ffeit, ffeit
Mae John Hartson yn datgan yn ei hunangofiant, sydd allan wythnos yma, ei fod wedi cael ffeit efo rheolwr Cymru, Bobby Gould, tra'n ymarfer ar gyfer gêm Cymru â Thwrci ym mis Rhagfyr 1996.
Roedd y sesiwn ymarfer yn dod mis yn unig wedi Cymru ddioddef crasfa 7-1 yn Eindhoven - y tro cyntaf i mi deithio dramor â Chymru - ac yn ôl llyfr Hartson, cafodd ei alw allan am ffeit gan y rheolwr yng nghanol sesiwn ymarfer yng Nghasnewydd.
Mae'r stori'n hysbys ers amser maith, ond dyma'r tro cyntaf i unrhyw un o'r chwaraewyr ddod allan a chadarnhau yr hyn fo pawb wedi amau. Mae'r syniad o chwaraewyr rhyngwladol mewn cylch o amgylch dau ddyn yn cwffio yn chwerthinllyd - mae mwy fel golygfa o Grange Hill.
Yr unig beth da i ddod allan o deyrnasiad Gould â Chymru oedd y crysau eiconig "Gould Must Go ..." cafodd eu dylunio ar batrwm clawr album "Everything Must Go ..." y Manic Street Preachers, mae'n un i dal yn y ty yn rhywle.
Hefyd, mewn un gig yng Nghaerdydd, newidiodd y Manics eiriau'r gan i "Bobby Gould must go ..." ... dyddiau da!!

' 'Hold it,' he shouted at me. He had turned to face me, right in front of the other players. 'Then he said, 'Right John, you and me, let's have a fight.' I didn't know what to say or where to look. Here I was being challenged to a fight by a middle-aged bloke, who also happened to be my boss.
Mae'r stori'n hysbys ers amser maith, ond dyma'r tro cyntaf i unrhyw un o'r chwaraewyr ddod allan a chadarnhau yr hyn fo pawb wedi amau. Mae'r syniad o chwaraewyr rhyngwladol mewn cylch o amgylch dau ddyn yn cwffio yn chwerthinllyd - mae mwy fel golygfa o Grange Hill.
Yr unig beth da i ddod allan o deyrnasiad Gould â Chymru oedd y crysau eiconig "Gould Must Go ..." cafodd eu dylunio ar batrwm clawr album "Everything Must Go ..." y Manic Street Preachers, mae'n un i dal yn y ty yn rhywle.
Hefyd, mewn un gig yng Nghaerdydd, newidiodd y Manics eiriau'r gan i "Bobby Gould must go ..." ... dyddiau da!!
« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment