Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Bonjour

Wel, rwyf wedi dychwelyd o Ffrainc, ond beth sydd wedi digwydd yn y byd pêl-droed yn ystod yr wythnos fues i dramor?
Mae Robert Page wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol er, mae'n rhaid mi gyfaddef mod i'n meddwl ei fod eisoes wedi ymddeol! Yn anffodus i Gymru, mae James Collins, Mark Delaney a Sam Ricketts wedi anafu sydd yn golygu mai Danny Gabiddon fydd yr unig un o'r pedwar amddiffynnwr wynebodd Y Weriniaeth Siec sydd yn holliach i herio Slofacia a Chyprus.

Y newyddion mawr arall ydi bod Hotspur Caergybi drwodd i drydedd rownd Cwpan Cymru yn dilyn buddugoliaeth wych dros Llangefni Sadwrn diwethaf. Bydd Hotspur yn herio Llanandras am le yn yr 16 olaf ar 4 Tachwedd.
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment