Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Be? Mae o 'di brifo hefyd?

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd tu hwnt i gefnogwr Wrecsam, ond wedi gwylio'r fuddugoliaeth 2-0 dros Bristol Rovers ddydd Sadwrn roedd rhywun yn credu bod y tîm wedi troi'r gornel ... Yna gyda Neil Roberts a Lee McEvilly wedi anafu, Juan Ugarte dal heb ddychwelyd o Wlad y Basg a Chris Llewellyn wedi ei wahardd am dri gêm wedi ei gerdyn coch ddydd Sadwrn, daeth y newyddion bod Tom Craddock wedi anafu ei ben-glin yn ystod ei gêm gyntaf i'r clwb ar fenthyg o Middlesbrough!

Mae'n rhaid bod Denis Smith wedi torri drych tra'n cerdded ar y craciau yn y pafin o dan ystol ar ddydd Gwener y 13eg ...
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 2:49 PM Anonymous iyers ddywedodd ...

The hwdw continues! ;p
Will Rovers ever win at Wrecsam again?!!    



» Post a Comment