Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Czech mate

Roeddwn i'n ddigon blin cyn y gêm neithiwr gan nad oeddwn i wedi gallu teithio i Teplice - rwyf wedi methu tair o'r bedair gêm oddi cartref olaf erbyn hyn a hynny wedi rhediad o 16 gêm oddi cartref yn olynol.

Ond mae'n rhaid dweud bod y modd collwyd y gêm yn Teplice neithiwr yn golygu mod i hyd yn oed fwy blin! Roeddwn wedi disgwyl cweir go iawn - tyda ni'n griw optimistaidd fel cefnogwyr Cymru - ond wedi gwrthsefyll ymosodiadau cynar Jan Koller a Tomas Rosicky, roedd aeddfedrwydd ein amddiffyn ifanc yn arbennig a roeddwn i wedi dechrau credu bod modd ennill y gêm.

Cafodd Craig Belamy gyfleoedd euraidd i roi Cymru ar y blaen, ond yn anffodus roedd ymosodwr Lerpwl yn wastraffus a bu rhaid talu'n ddrud wrth i'r Sieciaid fynd ar y blaen yn hwyr yn y gêm â gôl hynod ddadleuol.

Roedd penderfyniad Tosh i ddod â Cotterril ac Earnshaw i'r maes yn syth wedi'r gôl yn profi ei fod yn reolwr dewr, a bu bron i'r penderfyniad dalu ar ei ganfed wrth i'r ddau gyfuno i greu gôl i Gynmru.

Yn anffodus llwyddodd Lafata i sgorio ei ail gôl yn hwyr yn y gêm a sicrhau fod Cymru'n dod adref yn waglaw.


Jones - dibynadwy iawn ond ei gicio'n siomedig ar brydiau - 7/10
Delaney - yn amlwg ddim yn gwbl ffit, ond yn gryf ar y dde 6/10
Ricketts - ildio meddiant yn rhy hawdd ar brydiau ac ddim yn dod yn ôl ddigon cyflym wedi gwrthymosod 6/10
Gabbidon - ei gêm gorau dros ei wlad - arbennig yng nghanol yr amddiffyn 8/10
Collins - ambell i dacl holl bwysig yn profi ei fod â'r gallu 8/10
Nyatanga - aeddfed ac arbennig 8/10
Robinson - taclo fl corgi ond yn cael trafferth ymdopi â Rosicky 6/10
Fletcher- cyfuno'n dda yng nghanol cae ond eto, yn methu ymdopi â Rosicky 6/10
Davies - y gorau rwyf wedi gweld Davies yn chwarae ers tro byd. Cyfuno'n arbennig efo Giggs a Bellamy 8/10
Bellamy - gweithgar tu hwnt ond methodd ddau gyfle euraidd 7/10
Giggs - profodd Giggs fod yn gallu chwarae cystal dros ei wlad ag y mae dros ei glwb 8/10

Eilyddion
Ledley - digon distaw ac heb law am ei gyfyrddiad cyntaf fe aeth ar goll 6/10
Cotterill - edrych yn addawol ac yn amlwg ar ben y byd wedi symud i Wigan ac fe greodd y gôl 7/10
Earnshaw - gweithgar iawn unwaith daeth i'r maes a chyfunodd yn dda â Cotterril i greu'r gôl 7/10
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment