Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Brasil nuts

Roeddwn i wedi penderfynnu byddai Ifan yn cael mynd i gêm oddicartref Cymru cyn diwedd y flwyddyn, a chyda'i fam yn mynnu na chafai'r bych fynd i Teplice, bu rhaid iddo fodloni ar White Hart Lane, Ronaldinho a Brasil!

Roedd y gêm yn un od ar y maes ac yn yr eisteddle. Roedd seddi'r Cymry'n llawn o grysau Cymru ond acenion Cockney mawr ... "Dad, be' ddudodd y boi na?" gofynnodd Ifan wedi rhyw foi ofyn os oedd o'n cefnogi "Wiles" ... "Wêls ydi o yn Saesneg 'de dad, ddim Wiles ..." Wrth gwrs roedd pocedi o wynebau cyfarwydd i'w gweld - rhai o Glwb 1927 Llundain yn amlwg, Rhys Boore a Jerry Jones, Tommie a Tal o griw Porthmadog, Richard Green a chriw Pwllheli ac roedd hogia'r Twthill o Gaernarfon yn eistedd o'n blaenau ... wel, am yr hanner cyntaf beth bynnag!
Ond roedd llond y lle o dwristiaid hefyd ... gofynnodd un boi tu ôl i mi "Which one's Giggs then?" a dyma'i fêt yn ateb "Number 10 of course" ... Simon Davies oedd rhif 10, ac erbyn i'r boi ofyn y cwestiwn roedd Giggs wedi hen adael y maes!

Beth bynnag, roedd ambell i beth positif i ddod o'r gêm - awch Giggs, gallu Gareth Bale ac aeddfedrwydd Lewin Nyatanga yw'r tri amlycaf, ond mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, beth wir oedd pwynt y gêm yma?
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment