Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Accrington Stanley ... who are they?

Wel, mam bach, mae Wrecsam yn gwybod yn iawn pwy ydi Accrington Stanley erbyn hyn wedi clli 5-0 yn y Crown Ground neithiwr. Ond cyn i mi ladd ar yr unarddeg chwaraewr oedd â'r cheek i alw eu hunain yn bêl-droedwyr neithiwr, gadewch i mi geisio disgrifio maes Accrington Stanley.
Dim ond un eisteddle sydd yn y maes, ond mae ei alw'n brif eisteddle yn mynd mymryn yn bell - dim on wyth rhes o seddi sydd yn yr eisteddle! Mae dau deras tu ôl i'r naill gôl; un i'r cefnogwyr oddi cartref - roedd 799 o gefnogwyr Wrecsam wedi gwneud y daith i Sir Gaerhirfryn neithiwr, ac un arall i'r Stanley Ultras - fel cafodd y cefnogwyr cartref eu disgrifio gan ohebydd Radio 2BR "you're listening to Accrington Live on 99.8FM" ar sawl achlysur.
Mae'r llif oleadau yn warthus gyda nifer o fannau tywyll iawn ar y maes, yn wir, byddai Stanley'n ei chael yn anodd sicrhau eu lle yn y Cwpan Cenedlaethol ar sail cryfder eu goleadau!
Mae 12 sedd yn lloc y wasg Accrington Stanley, ond neithiwr roedd gan 17 o ohebwyr docyn i eistedd yno a bu rhaid i ambell i ohebydd eistedd yng nghanol cefnogwyr Stanley.

Ond beth am y perfformiad? Wel, roedd Wrecsam yn drychinebus gyda pob un o'r pum gôl yn siomedig tu hwnt a chyda'r golwr, Mike Ingham, ar fai am o leiaf pedwar o'r pump.
Wedi dod â record 100% Swindon i ben ddydd Sadwrn, roedd dyn yn disgwyl llawer gwell yn erbyn tîm oedd wedi cipio un buddugoliaeth y unig cyn y gêm neithiwr.
'Doedd yr un chwaraewr yn dod allan o'r gêm ag unrhyw fath o glod ond mae'n rhaid dweud bod yr amddiffyn yn siomedig tu hwnt.
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 9:20 AM Blogger Huw Waters ddywedodd ...

Os wnei di yfed digon o lefrith, wrach fyddi di digon da i chware i Accrington Stanley.    



am 9:41 AM Blogger fflecs ddywedodd ...

Dwi di clywad fod torfeydd Accrington yn sobor o wael, roedd cyfweliad ar rhaglen 'Championship' efo plant bach Accrington yn deud fod nhw yn "crap" a bo nhw yn cefnogi Burnley!!!    



am 10:51 AM Blogger løvgreen ddywedodd ...

Anhygoel o ganlyniad ar ol dydd sadwrn dwytha. Ti'n meddwl bod Ingham wedi'i cholli hi? Dio ddim yn un da am gyfathrebu efo'i amddiffynwyr, nachdi, ond dwi'n meddwl ar y cyfan ei fod o'n well golwr na carrots hefyd. Ond ella dylai hwnnw gael rhediad yn y tim i weld be all o neud. Dwi'm yn gwbod wir...    



am 12:00 PM Blogger Mr Gasyth ddywedodd ...

Ma'n dda gweld Stanley yn ol ar ol iddyn nhw ddod mor agos at ddifodiant rai blynyddoedd yn ol. Nest ti brynu Crys-T 'Accrington Stanley; We Are They' tra oeddet ti yno?    



am 9:39 PM Blogger Gary ddywedodd ...

fflecs: roedd 799 o gefnogwyr Wrecsam mewn torf ychydig dros 2,500. Mae hyn yn sobor o gofio bod nhw yn ôl yn y gynghrair!

lovgreen: mae gen i bechod dros Ingham - oedd roedd on wael, ond blydinhell, roedd pawb yn shocking nos Fercher    



am 9:40 PM Blogger Gary ddywedodd ...

Mr G: nes i ddim gweld y crysau-T ond roeddw i wrth fy modd â'u baner anferth "FC Stanley of Accrington"!    



am 3:03 PM Blogger MATCHhotels ddywedodd ...

Great blog, really informative piece on Accrington Stanley, if your watching a game why not stay in one of the many Accrington Stanley hotels.    



» Post a Comment