TNS allan o Ewrop ... eto
Colli 1-0 oedd hanes Y Seintiau Newydd neithiwr yn erbyn MyPa o'r Ffindir ac yn wir, roedd yn fuddugoliaeth go gyfforddus i'r tîm o'r Ffindir. Bu rhaid chwarae'r gêm yn Y Drenewydd oherwydd nad yw maes Y Seintiau yn cyrraedd safon Uefa ond roedd yn braf gweld torf digon parchus ar Barc Latham.
Yn anffodus i'r dorf, methodd Y Seiniau â phrofi golwr MyPa fwy nag unwaith trwy gydol y gêm - ac mae hynny'n cynnwys cic o'r smotyn aeth heibiio'r postyn yn y funud olaf ac maent yn mynd allan o'r gystadleuaeth 2-0 ar gyfanswm goliau.
Wedi'r gêm roedd rheolwr Y Seintiau, Ken McKenna, am weld tymor pêl-droed Cymru yn cychwyn yn gynt er mwyn caniatau'r timau sy'n cystadlu yn Ewrop i gael hanner dwsin neu fwy o gemau i baratoi ar gyfer cystadlaethau Uefa.
Ydi, mae pêl-droed yr haf yn rhywbeth byddwn i yn ei ffafrio am amryw o resymau - dim ond un rheswm yw paratoi ein timau ar gyfer Ewrop - ond y gwir amdani yw fod Y Rhyl, Caerfyrddin a bellach LLanelli wedi llwyddo i ennill gemau yn Ewrop cyn i'r tymor gychwyn, ac fe ddylai clwb sydd yn gwbl broffesiynol fel Y Seintiau lwyddo i drechu tîm fel MyPa oedd, a bod yn hollol onest, yn un digon cyffredin.

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment