Pwy sydd ar fai?
Mae Lloegr wedi cyrraedd yn ôl o Gwpan y Byd wedi coli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Portiwgal ddydd sadwrn ... ond mae'n rhaid i'r Saeson weld bai ar rhywun (h.y. unrhyw un heb law am y Saeson eu hunain).
Mae'r Sun yn gweld bai ar Cristiano Ronaldo gan roi llun ohono ar fwrdd dartaiu ar eu tudalen flaen ac maent yn adrodd bod Wayne Rooney am ei "dorri yn hanner" yn sesiwn ymarfer cyntaf Manchester United.
Ond y gwir amdani yw fod Lloegr wedi chwarae'n sal trwy gydol y bencampwriaeth. Fe ddylai'r Saeson fod yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol heb unrhyw drafferth o gofio'r safon sydd yn eu carfan, ond nid oedd eu perffromiadau'n ddigon da.
Cyn beio Ronaldo fe ddylai'r Sun ofyn pam bo David Beckham wedi methu tanio - wedi methu croesi yr un pêl o safon - wedi methu codi unrhyw gic rhydd na chic cornel i'r cwrt cosbi. Pam na chafwyd unrhyw berfformiad o safon ga Frank Lampard wedi tymor bendigedig dros ei glwb? Lle oedd Steven Gerrard? Pam na chafodd Aaron Lennon nag Owen Hargreaves gyfle i brofi eu bod yn haeddu chwarae yn yr XI cyntaf?
Saeson - doedd eich tîm ddim digon da - nid Ronaldo sydd ar fai ond eich sêr honedig!

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment