Gefle IF 1-2 Llanelli
Roedd yn fuddugoliaeth mor fendigedig ag yr oedd yn annisgwyl wythnos diwethaf pan drechodd hogia tre'r Sosban eu gwrthwynebwyr o Sweden 2-1 yn Stadiwm Rasunda.
Cyn y gêm roedd fy nghyfaill o Sveriges Radio (ac ia, cyn i chi ofyn, Bjorn oedd ei enw!) yn hyderus, yn enwedig wedi iddo glywed nad oedd yr un o chwaraewyr Llanelli yn chwaraewr rhyngwladol. "Be? 'Does yr un ohonynt efo cap?" gofynnodd Bjorn wrth i mi redeg trwy dîm Llanelli ar ei ran. Mae ymosodwr Gefle, Kristen Wiikmae, rwydodd gôl y tîm cartref, wedi ennill 100 o gapiau dros Estonia tra bo'u hasgellwr o'r Congo, René Makondele, wedi ennill 15 o gapiau.
Yn yr hanner cyntaf roedd Gefle'n edrych yn gryfach ac yn gynt na Llanelli ac roedd y Cochion yn ffodus i beidio bod ar ei hôl o fwy nag un gôl. Bjorn oedd yn uchel iawn ei gloch wrth i ni fwynhau panad a bisged yn lolfa VIP y Rasunda, ond roedd yn stori dra gwahanol wedi'r egwyl.
Fe weddnewidiwyd y gêm wedi Peter Nicholas yrru'r Sbaenwr, Jacob Mingorance, i'r maes. Roedd yr eilydd yn ysbrydoliaeth i'w gyd-chwaraewyr ac wedi Rhys Griffiths rwydo i ddod â Llanelli'n gyfartal, cafwyd chwip o gôl unigol gan Mingorance wedi iddo ddawnsio trwy amddiffyn Gefle cyn rhwydo.
Mae'r gobeithion yn uchel ar gyfer yr ail gymal ar Barc y Strade wythnos nesaf, ond fel dywedodd Peter Nicholas wrtha'i wedi'r gêm ... "It's only half time"!

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment