Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Ariannin 1978

Wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd, 'dwi wedi bod yn syrffio'r we yn chwilio am rhai o uchafbwyntiau Cwpanau Byd fy mhlentyndod.

Y gystadleuaeth cyntaf rwy'n ei gofio go iawn yw'r Ariannin ym 1978.

Rwy'n cofio lluniau o fws Yr Alban yn torri i lawr cyn iddynt gyrraedd eu gwesty gan fod holl gefnogwyr pêl-droed lleol wedi troi allan i'w croesawu a roedd injan y bws wedi gorboethi!

Rwy'n cofio David Coleman yn gwneud adroddiad hir a chymleth (i fachgen 7 mlwydd oed) am y coup militaraidd oedd wedi golygu nad oedd Johan Cruyff yn fodlon teithio i'r wlad>



Ond fwy na dim byd arall, rwy'n cofio'r holl ticker tape yng ngemau'r Ariannin a'r bechgyn ifanc yn gwneud triciau efo peli pêl-droed cyn y gemau ac yn fwy na dim, fy hoff chwaraewr ar y pryd, Mario Kempes (roedd gen i grys Valencia melyn, coch a glas efo Kempes ar y cefn!).

'Dwi'n credu mai dyma'r rheswm pam fy mod yn tueddu i gefnogi'r Ariannin yng Nghwpan y Byd yn hytrach na Harlem Globetrotters y byd pêl-droed, Brasil.
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 7:16 AM Anonymous Anonymous ddywedodd ...

This post has been removed by a blog administrator.    



» Post a Comment