Wrecsam - adroddiad ar y tymor
Wel, mae tymor Wrecsam ar ben, ac am unwaith rwy' eithaf balch nad yw'r clwb wedi esgyn gan nad ydw i'n credu byddai tymor nesaf wedi bod yn un da iawn petan wedi codi i'r Adran Gyntaf.
Mae'r adran isaf yn adran cythreilig o sâl, ond mae'r ffaith i ni fethu â churo timau fel Amwythig, Caer, Notts County, Stockport a Torquay yn profi nad yw ei tîm ni hanner ddigon da.
Mae Danny Williams wedi bod yn gawr tymor yma a roeddwn yn hynod o falch ei weld yn cael gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ddoe.
Ac mae Mark Jones yn llawn haeddu'r wobr gyfatebol i chwarewyr ifanc, er mae'n deg deud ei fod wedi cael diweddglo gymharol siomedig i'r tymor.
Ond beth am y tymor newydd? Pa chwaraewyr ddylai fod yn aros? Pa safleoedd ddylai Denis Smith fod yn ceisio eu cryfhau?
Wel, os caw ddechrau â'r golwyr - mae Mike Ingham wedi profi yn golwr ddigon dibynadwy ond mae Michael Jones, yr eilydd ifanc, yn edrych yn addawol tu hwnt, felly mae'r bois rhwng y pyst yn iawn.
O ran yr amddiffyn, mae Shaun Pejic a Dennis Lawrence wedi cael tymor boddhaol ac mae Mike Williams - y chwaraewr ifanc o Fae Colwyn - wedi profi ei fod ddgon da i gmu i'r adwy pan fo angen. Byddai rhyddhau Dave Bayliss yn fawr o golled ond mae angen amddiffynnwr canol arall er mwyn rhyddhau Danny Williams i fynd yn ôl i ganol cae.
Ac wrth sôn am ganol cae, mae Williams a Jones yn llawn haeddu eu llefydd tymor nesaf. Mae Andy Holt, wedi cyfnod o anafiadau, wedi disgleirio ar yr asgell chwith, ond mae Simon Spender a Lee Roche wedi ei chael yn anodd i greu yr un argraff ar yr asgell dde. Prin iawn mae Matt Crowell wedi disgleirio ac am y tro cyntaf erioed, nid wyf yn credu byddwn wedi colli rhyw lawer ar Darren Ferguson eleni.
Ond mae un seren ddisglair, a chawsom gyfle i'w weld yn erbyn Rhydychen ddoe, Matty Done. Mae'r bachgen ifanc yma wedi creu cryn argraff arnaf i ddoe gyda'i rediadau campus a'i ddiffyg ofn o'r gwrthwynebwyr.
Yn ôl pob sôn mae Lerpwl ar ei ôl, ond gobeithio bydd Denis Smith yn gallu cadw ei afael arno.
Yn y llinel flaen mae Wrecsam wedi cael trafferthion eleni. Heb law am goliau Mark Jones a Matt Derbyshire, oedd ar fenthyg o Blackburn, symol iawn yw record sgorio'r Dreigiau tymor yma.
Roedd Lee McEvilly yn edrych yn addawol iawn unwaith iddo ddod i afer â chwarae'n llawn amser eto wedi cyfnod ag Accrington Stanley, ond mae wedi dioddef dwy anaf hir-dymor.
Mae Jon Walters yn gweithio'n galed iawn, ond mae angen iddo fod ychydig llai gonest a bod ychydig yn hunanol yn y cwrt cosbi.
Felly byddai sicrhau amddiffynnwr, chwaraewr canol cae, asgellwr dde ac ymosodwr ar gyfer y tymor newydd yn fendigedig!

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment