Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Bore da o Belfast

Bore Da!
Dwn i ddim os ga'i gyfle i bostio o Belfast eto, ond rwyf wedi bod yma ers ddoe yn paratoi ar gyfer y gêm fawr fory - roedd angen dod yn gynnar er mwyn arfer efo'r gwahaniaeth amser ayyb, mae'n waeth pan mae rhywun yn hedfan tua'r gorllewin medda nhw!!

Yn ôl y son ar strydoedd Belfast neithiwr, mae Tosh wedi dewis tîm "diddorol"
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 9:27 AM Blogger Sanddef ddywedodd ...

Gelli ddefnyddio'r rhyngwe yn rhad ac am ddim fel gwestai yn y Llyfrgell, 09:00-17:30 (09:00-13:00 dydd Sadwrn). Mae 'na hefyd rhyngwe ar gael ar lawr cyntaf canolfan siopa Castle Court (o'r enw "no geeks") hyd 21:00 heddiw (mae popeth ar agor hyd 21:00 bob dydd Iau), hyd 17:00 neu 18:00 yfory ac rhwng 13:00 a 17:00 ar ddydd Sul (cost= £1 am 20 munud neu £2 am awr). Mae'r llyfrgell a Castle Court ar yr un stryd, sef y Royal Avenue. Hefyd os ti'n mynd i Castle Court mae 'na allanfa ar yr ochr chwith i "chapel lane" (os ti'n mynd i mewn iddi o'r Royal Avenue). Os nei di fynd allan yno ac i lawr Chapel Lane fe weli di ar yr ochr chwith hen dafarn wen heb enw. Dyna Kelly's, tafarn wyddelig hynaf Belfast lle gelli glywed cerddoriaeth draddodiadol bob prynhawn. Mae tarddiad y Royal Avenue yn wynebu mynedfa neuadd y ddinas. Os ti'n mynd o neuadd y ddinas i fyny Royal Avenue bydd Castle Court ac wedyn y llyfrgell ar y chwith. Mae Virgin hefyd ar y chwith. Yn Virgin mae'r rhyngwe ar y llawr cyntaf ac yn costio £1 am hanner awr, ond bydd y sesiwn yn terfynnu bob hanner awr tra bo sesiynau yn "no geeks" yn parhau am yr amser ti eisiau. Pob Hwyl!    



am 9:32 AM Blogger Sanddef ddywedodd ...

Wps! nes i anghofio mai dydd Gwener ydy heddiw! Felly bydd popeth yn cau rhwng 17:00 a 18:00. Mae na hefyd sawl "cell ryngwe" (fel cell deleffon ond gyda chyfrifiadur ynddi) yng nghanol y ddinas (ger Neuadd y Ddinas). Mae'n costio £1 am chwarter awr.    



» Post a Comment