Bahrain ... gwlad gyfoethog!
Nid bod fi'n awgrymu dim efo'r pennawd cofiwch, ond mae rhywbeth mawr o'i le efo'r hyn ddigwyddodd i Uzbekistan.
Yng nghymal cyntaf y gêm ail gyfle rhwng Bahrain ac Uzbekiatan, llwyddodd yr Uzbeks i ennill 1-0 ond roeddent yn gandryll â'r dyfarnwr wedi iddo wneud camgymeriad dros benderfyniad ar gic o'r smotyn. Gyda'r Uzbeks 1-0 ar y blaen cawsant gic o'r smotyn ac er i Server Djeparov rwydo, rhoddodd y dyfarnwr o Siapan, Toshimitsu Yoshida, gic rydd i Bahrain am i un o'r Uzbeks gamu i fewn i'r cwrc cosbi.
Yn ôl y rheolau, fe ddylai Uzbekistan fod wedi cael cyfle i gymryd y gic eto, ac o'r herwydd aeth Uzbekistan ger bron Fifa i alw am i'r gêm gael ei ddiddymu gyda Uzbekistan yn cael sgôr o 3-0 - ond mynodd Fifa bod y gêm gyfan yn cael ei ailchwarae.
Yn y gêm ailchwarae, llwyddodd Bahrain i sicrhau gêm gyfartal 1-1 ac wedi gêm ddi-sgôr yn yr ail gymal yn Bahrian nos Fercher, mae Uzbekistan allan!
Fifa

« Dolen flaen | Nesaf »
am 3:19 PMYchydig cyn hynny anrhydeddwyd y dyfarnwr fel y dyfarnwr gorau yn Asia - arian da a wrandewir!
am 3:19 PM
Bahrain v Trinidad a Tobago mewn gêm ail gyfle?
Dennis Lawrence yn nghwpan y byd?
am 3:27 PM
Yn union - rhywun i gefnogi yn Yr Almaen - c'mon Big Den a'i fêts!
am 6:54 PM
Ydi Sam Hector, brawd Kevin gynt o Ipswich, da yn chwarae i'r Tobogans?
am 10:03 AM
Sam Hector?
Dyna oedd Championship Manager yn ei alw fo - hee! hee! hee! hee!
» Post a Comment