Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Problemau? Pah!

'Dwi wedi cael llond bol ar yr holl nonsens sydd am Manchester United yn y wasg ar y funud. Roedd 606 yn llawn dop o gefnogwyr Manchester United yn cwyno nos Sadwrn ac mae'r papurau yn llawn straeon fod y clwb ar chwal, fod y clwb wedi chwythu ei blwc neu fod Alex Ferguson wedi ei cholli hi fel rheolwr. Pam hyn? Wel, roedd eu cefnogwyr wedi bwio wedi United golli yn erbyn Blackburn ddydd Sadwrn!

Where it all went wrong ydi'r pennawd yn y Guardian ...

The moment they turned on Fergie - the beginning of the end sydd yn yr Independent ...

... ond daliwch eich dwr ... mae Manchester United yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr heno, mae Manchester United yn chweched yn yr Uwchgynghrair ac mae Manchester United yn berchen rhai o chwaraewyr mwyaf talentog y byd pêl-droed.

Os yda chi wir eisiau gweld clwb sydd yn dioddef, dewch i'r Cae Ras lle mae Denis Smith yn gwneud gwyrthiau efo carfan fechan a llond trol o anafiadau. Ewch i wylio Caergrawnt sydd wedi colli eu statws fel clwb cynghrair yn ogystal a gweld eu maes yn cael ei werthu i wr busnes lleol er mwyn codi arian i gadw'r clwb yn fyw. Cofiwch ymweld â Boston lle mae'r cefnogwyr yn cael eu gwahardd o'r maes am leisio barn yn erbyn y cadeirydd ...

... dyma beth yw problemau, dyma beth ydi clybiau pêl-droed sydd angen eu cefnogi - nid rhyw glwb mawr sydd yn meddwl mai methiant ydi gorffen yn drydydd yn yr Uwchgynghrair tra'n cyrraedd rownd yr wyth olaf o Gynghrair y Pencampwyr.
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 2:55 PM Anonymous My Little Yellow Dragon ddywedodd ...

Dim byd i gymharu gyda digwyddiadau yn y Barri dros y tymhorau diwethaf!    



am 11:26 AM Blogger Gary ddywedodd ...

Digon gwir MLYD - sut mae pethau efo'r clwb newydd?    



am 7:26 PM Anonymous My Little Yellow Dragon ddywedodd ...

Dyn ni'n tyfu. Mae'n araf wrth gwrs, fel roedden ni'n disgwyl. Ar y cae, dyn ni ddim wedi bod more llwyddiannus (5 o bwyntiau ym 5 o gemau) ond oddi ar y cae, mae'r strwythur yn dod yn gilydd yn dda - llawer o noddwyr, ddiddordeb lleol, cyfartal o 150 yn y gemau gyntaf. The only way is up!    



» Post a Comment