Fy marn ...
Reit, rwyf wedi cael cyfle i ddad-flino erbyn hyn ac mae'n rhaid mi ddweud fy mod yn eithaf hapus â'r hyn sydd yn digwydd â'r tîm cenedlaethol.
Oce, rydym wedi colli pedair gêm gystadleuol o'r bron o dan Tosh, ond yn y dair gêm ddiwethaf rydym wedi colli:
a) yn erbyn Awstria diolch i gamgymeriad yn y funud olaf gan ein golwr
b) yn erbyn Lloegr diolch i'r bêl dasgu oddi ar Danny Gabbidon ac i'r rhwyd
c) yn erbyn Gwlad Pwyl diolch i gic o'r smotyn
Roedd y perfformiad yn erbyn Lloegr yn 100 gwaith y perffrmiad gafwyd yn Old Trafford a roedd ein perfformiad allan yng Ngwlad Pwyl yn hynod broffesiynol o gofio mai'r Pwyliaid yw'r tîm gorau yn y grwp.
Mae chwaraewyr ifanc, megis Richard Duffy, Joe Ledley, Sam Ricketts, Craig Davies yn ogystal a'r chwaraewyr sydd yn cael eu hystyried yn brofiadol fel Danny Gabbidon, Simon Davies a James Collins yn argoeli'n dda ar yfer y dyfodol.
Rwy'n edrych ymlaen yn arw at Ewro 2008 ...

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment