Cymru drwodd
Llwyddodd tîm dan-17 Cymru i gyrraedd ail rownd pencampwriaethau Uefa diolch, yn bennaf, i Estonia.
Wedi trechu Estonia 2-0 ddydd sadwrn, roedd Cymru angen ffafr gan y wlad o Fôr y Baltic yn eu gêm nhw â Kazakhstan gan fod Cymru'n herio'r tîm cryfa yn y grwp, sef Y Swistir.
Wedi Cymru golli 3-0 ar Y Cae Ras cafwyd newyddion gwych fod Estonia wedi trechu Kazakhstan 2-0 ac felly'n sicrhau fod tîm Brian Flynn yn gorffen yn ail yn y grwp.
Roedd bechgyn Y Swistir yn edrych yn gryfach ac yn fwy corfforol nag unrhyw dîm arall yn y grwp ac nid oedd yn syndod eu bod wedi ennill y dair gêm. Un enw i wylio amdano ar Sgorio'r dyfodol yw Gianluca Frontino, roedd y chwaraewr athrylithgar yma'n rhedeg y sioe i'r Swistir yn y ddwy gêm weles i.
Ond, wedi dweud hynny, mae'n siwr fod nifer o chwaraewyr wedi serenu ar y lefel yma ac yna wedi diflannu heb wneud yr un argarff ar y lefel uchaf - ar gefn rhaglen y grwp roedd llun tîm dan-18 Cymru o 1999 - y tro diwethaf i dwrnament Uefa gael ei gynnal yng ghymru - a'r unig un o'r tîm i ennill cap llawn yw Robert Earnshaw, gyda nifer o'r bechgyn wedi diflannu'n gyfan gwbwl.
Y garfan adeg hynny oedd:
Lee Kendall, Mark Nicholas, Michael Fowler (Crystal Palace), Darren Moss (Caer), Jonathan Derbyshire, Lee Skelly, Geza Hajgato, Robet Earnshaw (Caerdydd), Ryan Valentine (Everton), Rhys Day (Man City), Danny Scheppel (Birmingham City), Lee Evans (Stockport), Leigh de Vulgt (Abertawe), Kevin Gall (Newcastle), Jermaine Easter (Wolves), Wayne Morley, Jamie Atwell (Tottenham Hotspur), Rhodri Jones, Matthew Williams (Man Utd), Ben Madgwick (Southampton).

« Dolen flaen | Nesaf »
am 10:18 AMBeth oedd enw'r chwaraewr y dylem edrych allan amdano ar Sgorio'r dyfodol?
am 2:52 PM
Beth digwyddodd i'r gweddill o'r tim 'na? Kendall yn chwarae dros Hwlffordd, Mike Fowler yn capten Merthyr ar ol symud 'na dros yr haf o Gwmbran. Hazgato yn chwarae dros rhywun yn y Welsh League. Rhodri Jones nawr gyda Caerfyrddin a Leigh deVulgt gyda Port Talbot. Earnshaw yn chwarae rhywle dros rhywun ;)
am 11:31 AM
oops - sori Rhys - wedi ei ychwanegu i'r darn bellach ;)
am 11:32 AM
Mae un o'r chwaraewyr, ddim yn cofio pa un, yn chwarae i 'Aberaman Social Club' yng Nghynghrair Merthyr ...
am 12:02 AM
Hello! I am from Russia. I am sorry but I don't speak Welsh -( I have tried to find info (and photos!) about welsh talented player Geza Hajgato for about a year but I can't. I know he played for Port Talbot, Cardiff City and Pontardawe but I don't know what club he plays for today. If you have some information about this player or know where i can find this info please help me. If you have a digital photo of Geza it will be a very big gift for me...
my coordinates: elsewhere[m-o-n-k-e-y]yandex.ru
» Post a Comment