Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Alberto'n gwylltio'n gacwn

Ar brynhawn lle mae pawb i'w gweld yn gwirioni efo'r Llewod, penderfynias mai eistedd o flaen Sky Sports2 efo llond oergell o gwrw oedd y peth gorau i'w wneud heddiw.
Wedi gwylio'r Alban yn straffaglu i drechu Moldova 2-0 cawsom y gêm rhwng Azerbaijan a Gwlad Pwyl.
Gwlad Pwyl oedd yn fuddugol 3-0, canlyniad sydd yn eu hesgyn i frig Grwp 6, ond y digwyddiad mwyaf doniol o'r prynhawn oedd ymateb rheolwr yr Azeri, Carlos Alberto, i drydedd gôl yr ymwelwyr.
Roedd Alberto'n gandryll gan ei fod yn credu fod Maciej Zurawski yn camsefyll.
Wedi ffrae a hanner efo'r dyfarnwr cynorthwyol, bu rhaid i'w hyfforddwyr ei ddal yn ôl rhag ymosod ar y dyfarnwr. A chan nad oedd yn gallu cyrraedd y dyfarnwr, taflodd Alberto ddwrn i wyneb y pedwerydd swyddog!
Cafodd cyn seren Brasil ei hel i'r eisteddle, ond yn lle camu i'r seddi tu ôl i'r fainc, mynodd Alberto gerdded ar draws y maes i'r eisteddle gyferbyn gan wneud arwyddion anweddus tua'r dyfarnwr!

Reuters

Reit, Iwerddon v Israel sydd nesaf ar yr amserlen ...
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 10:58 AM Blogger Rhys ddywedodd ...

Gwyliais gem Brazil yn erbyn Paraguay neithiwr (ar y sianel Bravo [124]). Sgoriodd Robinho gol yn ei gem gystadleuol gyntaf, ac ma fe'n edrych fel chwaraewr dawnus wedi'r holl heip amdano. Brazil enillodd 4-1.
Mae gem Brazil yn erbyn yr Ariannin ymlaen ar yr un sianel ar nos Iau!    



» Post a Comment