Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Lerpwl neu Everton?

Pe bai Lerpwl yn ennill Cwpan y Pencampwyr tymor yma ond eto'n methu sicrhau eu lle yng nghstadleuaeth tymor nesaf trwy orffen ymysg y pedwar uchaf yn Uwchgynghrair Lloegr, a ddylent gael amddifyn y gwpan tymor nesaf?

Dyna'r cwestiwn mawr sydd yn poeni cefnogwyr Everton ar hyn o bryd. Mae'r Toffees yn edrych fel cipio'r pedwerydd safle yn yr Uwchgynghrair ac thrwy wneud hynny, sicrhau eu lle yn Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf ... ella.

Ni fyddai hyd yn oed y kop-ite mwyaf un llygeidiog wedi rhagweld byddai'r Cochion yn cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth, yn enwedig o gofio eu perfformiadau trychinebus yn y gynghrair. Ond pwy, erbyn hyn, fyddai'n betio yn erbyn Benitez â'i dîm yn mynd yr holl ffordd i Istanbul?

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi gwrthod datgan pwy fyddai'n cael cystadlu yn Ewrop tan bo'r tymor wedi dod i ben - mae'n debyg bod y dynion yn Soho Square yn gobeithio bod Chelsea yn trechu Lerpwl nos Fawrth.

Yn bersonol mae'n rhaid mi ddweud mai Lerpwl fyddai'n cael fy mhleidlais i. Mae'n rhaid bod ennill prif dlws Ewrop yn werth mwy na gorffen yn bedwerydd yng nghynghrair Lloegr.

Ond efallai bydd Uefa yn gwneud bywyd pawb yn Lerpwl yn haws trwy ymestyn gwahoddiad i'r ddau dîm - mae llywydd Uefa, Lennart Johansson, wedi crybwyll bod hynny'n bosib ... ond petawn i yn David Moyes, ni fyddwn yn dal fy ngwynt!

BBC Sport
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment