Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Hen Wlad Amhrán na bhFiann

Cafodd y dorf oedd wedi ymgasglu ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru yn Stebbonheath, Llanelli goblyn o sioc pan chwaraewyd yr anthem genedlaethol.

Yn lle Hen Wlad Fy Nhadau cafwyd Amhrán na bhFiann, The Soldier's Song, anthem Iwerddon.

Da iawn chi Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'r peth yn hollol gywilyddus!

Yr esgus yw fod tâp wedi ei greu ar gyfer gêm yn y gorffenol oedd yn cynnwys anthem Iwerddon a Chymru a nad oedd y person chwaraeodd y tâp yn ymwybodol mai anthem Iwerddon oedd y cyntaf ar y tâp.

Tâp ...? Tâp ...? Pam goblyn oedd y gymdeithas bêl-droed yn chwarae tâp? Rwy'n siwr bod rownd derfynol Cwpan Cymru, o gofio holl hanes y gystadleuaeth, yn haeddu gwell na thâp amaturaidd ar yr uchelseinydd.

Rwy'n siwr fod y Gymdeithas Bêl-droed, gyda'r holl arian gan Sky yn gallu fforddio talu am fand pres - band Llu Awyr St Athan sydd yn gwneud y job yn Stadiwm y Mileniwm.

Fel arbrawf rwyf wedi teipio 'brass band Llanelli' yn Google ac mae'r canlyniadau yn dangos bod o leiaf dau fand pres yn y dref - rwy'n siwr byddent wedi bod yn falch o gael y fraint o chwarae'r anthem.


BBC Cymru'r Byd
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment