Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

20 mlynedd ers tân Bradford

Ar 11 Mai 1985, roedd torf o dros 11,000 wedi mynd i Valley Parade i ddathlu'r ffaith fod Bradford City wedi sicrhau dyrcahfiad i'r hen Ail Adran. Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd maith byddai'r Bantams yn chwarae pêl-droed ar yr un lefel â'u gelynion pennaf, Leeds United.
Ond ychydig funudau cyn yr egwyl roedd stwmpyn sigaret o dan y brif eisteddle wedi cynneu tân yn yr holl sbwriel oedd wedi ymgasglu yno ac o fewn pedwar munud roedd y brif eisteddle yn wenfflam a chollodd 56 o gefnogwyr eu bywydau gyda dros 200 yn dioddef anafiadau difrifol.

Roeddwn i'n fyfyriwr yn Bradford rhyw ddwy flynedd wedi'r tân, a byddwn yn mynd i wylio'r Bantams yn eithaf aml. Tra'n cerdded trwy'r ddinas ar fy ffordd i Manningham Lane a Valley Parade byddwn yn oedi ger cofgolfn y drchineb ym mhrif sgwar y ddinas ac eleni, wrth i mi ymweld â Valley Parade am y tro cyntaf ers sawl tymor, es i draw i weld y cofeb newydd sydd wedi ei godi ger y brif eisteddle newydd.

Byddaf yn gwneud pwynt o ymweld â'r cofeb a phob tro byddwn yn sefyll a chofio'r sawl fu farw byddai dagrau yn dod i'm llygaid, nid am fy mod yn adnabod unrhyw un gafodd eu lladd yn y tân ond am ei fod mor hawdd meddwl 'fe allai hyn wedi digwydd i mi'.

Ar y bore arbennig yma roedd 56 o bobl wedi gadael y ty llawn cyffro, llawn hwyl gan eu bod yn mynd i wylio eu tîm, gan eu bod yn mynd i ddathlu bod y tîm wedi sicrhau dyrchafiad .. ond ddychwelodd yr un o'r 56 yn ôl adref.




Football Guardian
Times Online
Independent
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment