Mayhem ym Milan
Bu rhaid i'r dyfarnwr ddod â derby Milan i ben yn gynnar wedi cefnogwyr Milan daflu fflêrs i'r maes gan daro golwr Internazionale, Dida, ar ei ysgwydd.
Mae cefnogwyr Cymru'n ymwybodol iawn pa mor haerllyg ydi cefnogwyr Milan, ond rwy'n gobeithio bydd Uefa yn cymryd sylw o'r hyn sydd yn digwydd yn Yr Eidal.
Bu rhaid i Anders Frisk ddod â gêm Roma â Dynamo Kiev i ben yn gynnar yn gynharach yn y gystadleuaeth wedi trafferth ymysg y dorf.

BBC Sport Online

« Dolen flaen | Nesaf »
am 9:27 AMMa'r Ultra's yn rhedeg y gem yno, a ma'r heddlu yn gwrthod gwneud unrhyw beth am y peth, dyna yw'r wir broblem.
Fyswn i hyd yn oed yn mynd mor pell a dweud taw'r Ultra's sy'n rhedeg yr heddlu hefyd.
Ma'n sefyllfa peryg iawn, a dwi'n ofni braidd am gem Juventus a Lerpwl heno.
am 10:21 AM
Cytuno'n llwyr - lle ddiawl oedd y cops yn ystod yr holl drafferth?
Sut oedd yr Ultras yn gallu parhau i daflu'r holl fflachiadau i'r maes am bron i ddeng munud - heb sôn am sut oeddent wedi cael y fflachiadau i fewn i'r maes yn y lle cyntaf.
Rwyf innau'n poeni am gêm Lerpwl hefyd (gweler y neges nesaf) - croesi bysedd bydd digon o heddlu yno i amddiffyn y Sgowsars.
» Post a Comment