Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Heysel 1985: Requiem for a Cup Final

Welodd unrhyw un arall y rhaglen yma ar BBC2 neithiwr?
Roedd yn cyfweld rhai o'r cefnogwyr, chwaraewyr a swyddogion oedd yn Heysel ar y noson erchyll welodd 39 o gefnogwyr yn marw wrth iddynt ymweld â'r stadiwm am y tro cyntaf ers y digwyddiad.

Roedd yn agoriad llygaid i glywed rhesymeg y sawl benderfynodd bod y gêm i fynd y ei blaen, heb sôn am ei gyflwr yn dilyn diwrnod cyfan o wledda. Roedd agwedd y pwysigion yma tuag at y cefnogwyr 'go iawn' yn sarhaus ac yn nodweddiad o'r ffordd oedd y sefydliad yn ymdrin â chefnogwyr ar y pryd.

Roedd yn anodd iawn, ar brydiau, gwrando ar swyddog tân oedd wedi cael ei galw i'r stadiwm ac wedi cadw dyddiadur o'r hyn ddigwyddodd. Nid oedd hi wedi darllen y dyddiadur ers ei 'sgwennu a roedd hi'n emosiynol iawn, a dweud y lleiaf, wrth ddarllen am ei theimladau unwaith eto.

Roedd yn amlwg, hefyd, fod euogrwydd mawr yn perthyn i'r chwaraewyr am iddynt chwarae'r gêm. Roedd Bruce Grobbelaar mewn dagrau wrth iddo wylio lluniau teledu o'r hyn oedd yn mynd ymlaen cyn y gêm.

Bu farw 38 Eidalwr ac un gwr o Wlad Belg yn Heysel, ond nid oedd yn amlwg, ar y pryd, beth oedd wedi digwydd. Rwy'n cofio'n iawn fy nhad yn ffrantig yn ceisio ffonio'r rhifau ffôn oedd ar y sgrîn deledu er mwyn cael unrhyw wybodaeth am fy ewyrth a fy nghefnder oedd i fod yn sefyll ar y teras drws nesaf i 'Block Z'.
Diolch i'r nefoedd, roedd y ddau yn saff, ond nid yw f'ewyrth, oedd â thocyn tymor yn Anfield am flynyddoedd maith, wedi ymweld â gêm bêl-droed ers y noson yma.

BBC News
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 7:45 PM Anonymous Anonymous ddywedodd ...

Dim rhyfedd doedd Phil Neal ddim eisiau siarad am y noson - oedd o wedi caelofn trwy ei din ac eisiau gafael yn llaw dyn o'r Belgium FA!    



» Post a Comment