Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Anafiadau'n poeni Wrecsam

Mae Carlos Edwards, Mark Jones a Craig Morgan yn dioddef anafiadau cyn i Wrecsam deithio i Gaerdydd ar gyfer rownd derfynol Tlws yr LDV.

Mae'n debyg bydd Jones a Morgan yn holliach ond mae'n annhebygol bydd Edwards yn gallu chwarae wedi iddo ddioddef anaf yn ystod y gêm gyfartal â Barnsley nos Fawrth.

Byddai'n bechod garw petai Carlos yn colli'r cyfle i chwarae ar faes Stadiwm y Mileniwm mewn rownd derfynol. Fo ydi un o chwaraewyr mwyaf disglair y clwb a byddai wrth ei fodd gallu dangos ei ddoniau ar lwyfan mawr.

Brysia wella Carlos!

BBC Cymru'r Byd
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment