Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Alex Ferguson yn dwat pt. 473

Wedi Duncan Ferguson rwydo i Everton cafodd Gary Neville ei hel o'r maes am gicio'r bêl i fewn i'r dorf. Gwych! Allai'm dioddef Gary Neville - os oes yna un chwaraewr sydd yn dweud popeth am pa mor dwatlyd yw Manchester United, Gary Neville ydi'r boi yna.

Mae o'n cwyno ac yn sgyrnygu pob tro mae'r dyfarnwr yn rhoi penderfyniad yn erbyn Manchester United a roedd ei wyneb yn bictiwr pan gafodd y cerdyn coch!

Er fod Ferguson yn cyfaddef fod Neville wedi bod yn wyrion, roedd yn dadlau am gerdyn coch Paul Scholes:

"Scholes was sent off for a late challenge, but how many late challenges came in on us our there?

Ferguson added: "I think Everton knew they had a weak referee and they exploited that to the full."

Cafodd Scholes ei hel o'r maes am gymryd cic slei ar Kilbane am ei fod Roy Keane wedi colli'r bêl a derbyn ei ail gerdyn melyn.

Roedd y ddadl ar ochr y maes rhwng Moyes a Ferguson yn wych - ew! mae'n wych gweld Manchester United yn colli!

BBC Sport Online
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment