Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Italian Job

Mae'r stori yma wedi bod o gwmpas ers tro byd, ond yn ôl y Wales on Sunday heddiw mae John Toshack yn mynd i geisio dwyn perswâd ar Carlo Cudicini i droi'n Gymro.
Mae'r Eidalwr yn gymwys i gael passport Prydeinig erbyn hyn gan ei fod wedi treulio pum mlyned yn byw yn Llundain, ac mae hynny'n golygu byddai'n cael cynrychioli un o wledydd Ynys Prydain.
Yn bersonol byddai'n llawer gwell gen i weld Danny Coyne neu Lewis Price o'r tîm dan-21 yn y gôl na'r gwr o Rufain. Nid oes gan Cudicini unrhyw gysylltiad o gwbl â Chymru, ac mae'n debyg mai'r unig dro mae wedi bod yn y wlad yw i ymweld â Stadiwm y Mileniwm â Chelsea.

icWales
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 12:49 AM Blogger Gareth ddywedodd ...

hmmm, un anodd. Mae Cudicini yn sicr yn chwaraewr o safon, ond mae angen gofyn cwestiynau os bysem efo gol-geidwad sy'n gwybod nesaf peth i ddim am Gymru. Dwi'n clywed pethau da am Lewis Price, a mi gafodd Coyne gem soled noson 'blaen yn erbyn Hwngari. Yn bersonol, fyswn i'n rhoi cyfle i'r ddau yma cyn mentro gwneud symudiad am Cudicini. A beth sydd i'w ddweud nad oes gan yr Alban ddiddordeb, neu hyd yn oed G. Iwerddon, er fod ganddyn nhw ddau o safon yn barod sef Taylor a Carroll.    



am 12:41 PM Blogger Gary ddywedodd ...

I fod yn onest tydw i ddim yn meddwl bydd Lewis Price byth yr un safon â Cudicini, ond hyd yn oed wedyn fyddwn i'n teimlo'n anghyfforddus iawn â Cudicini yn y gôl.    



» Post a Comment