Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

da da, da da, Juan U-gar-te

Llwyddodd Wrecsam i gymryd cam mawr tuag at ymweld â Stadiwm y Mileniwm ym mis Ebrill wrth drechu Oldham 5-3 ar Boundary Park neithiwr.
Roedd yn wych i weld cymaint o gefnogwyr Wrecsam yn gwneud y daith i Oldham - roedd dros 1200 ohonnom ni yno - a roedd yr awyrgylch yn anhygoel.

Roedd y gêm yn arbennig o dda gan fod y ddau amddiffyn yn warthus - mae Craig Morgan yn meddwl ei fod yn llawer gwell chwaraewr nag ydi o ac mae Shaun Pejic wedi colli pob hyder. Ond yn ffodus i ni roedd gennym ni y gwr o Wlad y Basg ...

da da, da da, Juan U-gar-te,
da da, da da, Juan U-gar-te,
da da, da da, Juan U-gar-te,
da da, da da, Juan U-gar-te.
(* i diwn Papa's Got a Brand New Pig Bag gan James Brown)

Sgoriodd yr athrylith o San Sebastián dair gôl - ac fe allai fod wedi sgorio chwech neu saith - a hynny er iddo gael ei eilyddio gyda 20 munud yn weddill o'r gêm.
Yr unig beth anffodus i weddill ymosodwyr Wrecsam yw fod Ugarte mor weithgar ac mae ei gyffyrddiad cyntaf mor dda, mae Chris Llewellyn a Hector Sam yn edrych yn hollol useless yn ei gwmni!
Methodd Llewellyn gyfle hawdd ofnadwy ar ddechrau'r ail hanner - wedi iddo dderbyn pas wych o ganol cae, roedd un am un ar y golwr tua 15 llath allan o'r gôl, ond roedd Llewellyn eisiau un cyffyrddiad yn ormod nes bo'r golwr wedi llwyddo arbed wrth ei draed.

Beth bynnag - Ebrill 10ed, Stadiwm y Mileniwm, gwnewch nodyn yn eich dyddiaduron!

BBC Cymru'r Byd

Ypdêt: diolch i PS am f'atgoffa mai James Brown ganodd y fersiwn gwreiddiol o Papa's Got A Brand New Pigbag
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment