Ooh Aah, Aberta ... we
Mae recordiau pêl-droed yn erchyll - does gen i ddim syniad be' sy'n gwneud i unrhyw un feddwl am hebrwng carfan o bêl-droedwyr i stwidio recordio.
Ond yn bwysicach, mae gen i llai fyth o syniad o beth sydd yn gwneud i rhywun brynu record bêl-droed:
"Ti di gweld adolygiad albym newydd Y Thrills?"
"Do, mae'n edrych yn dda - weles ti'r SFA ar MTV neithiwr?"
"Aye, mae nhw'n wych"
"Be am brynu hwn - can gan 15 o ddynion sydd erioed wedi canu yn eu bywydau gyda geiriau hynod o syml fel 'Glory Glory', 'Ooh Aah' neu 'Chelsea, Chelsea'?"
"Syniad gwych ..."
O Kevin Keegan yn canu 'Back Home' drwodd i John Barnes yn gwneud ei rapio erchyll gyda New Order ac yn sbwylio'r unig gan bêl-droed o safon (er mai can Lloegr oedd hi) mae'n draddodiad fod senglau pêl-droed yn uffernol!
Ac mae cefnogwyr Abertawe wedi ychwanegu at y rhestr felltith heddiw trwy ryddhau record o'r enw New Jack City i glodfori tymor olaf y clwb ar Y Vetch.
BBC News

« Dolen flaen | Nesaf »
am 1:32 PMHe he! Er gwaetha' ffaith mod i'n hoff o 'World In Motion', rwy' wedi dileu'r gân oddi ar y mini disc New Order sydd 'da fi yn y gwaith. Mae'n benu gyda 'Blue Monday' yn lle 'ny. Plentynaidd, ie. Pleserus... yyymmm, ie!
» Post a Comment