Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Juan-two-three-four Ugarte!

Gwych! Dyna'r unig air i ddisgrifio perfformiad y gwr o Wlad y Basg, Juan Ugarte, i Wrecsam brynhawn yma. Llwyddodd Ugarte i rwydo pedair gwaith i'r Dreigiau wrth iddynt chwalu Chesterfield 4-2 yn Saltergate.
Yr ateb perffaith wedi'r grasfa 5-1 gan Tranmere wythnos diwethaf.
Dyma'r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Saltergate, maes Chesterfield - y maes efo lloc yr wasg lleiaf yn y byd.

Unwaith roeddwn yn fy sêt roedd yn amhosib symud - roedd rhaid anghofio ceisio mynd i'r ty bach, roedd rhaid anghofio trio mynd i boced fy nghot i nol beiro sbâr gan fod pethau mor gythreilig o dyn yno. Yn wir mae hi mor gyfyng yn lloc yr wasg Chesterfield, roedd rhaid i mi ofyn i ohebydd Radio Derby symud dim ond i mi gael newid fy meddwl.

BBC Cymru'r Byd
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment