Newidiadau yn Brat'fud
Roeddwn i'n mynd i lawr i Valley Parade yn aml iawn yn yr 80au hwyr pan oeddwn yn fyfyriwr yn Bradford. Adeg hynny roedd y Kop tu ôl i'r gôl yn deras anferth tra bo'r ddau deras arall - un tu ôl i'r gôl gyferbyn a'r llall i lawr ochr y maes yn fychan iawn. Yr unig eisteddle oedd yr un i'r dde o'r Kop oedd wedi ei adeiladu yn lle'r eisteddle gafodd ei losgi yn ystod trychineb y tân ym 1985.
Erbyn hyn, wrth gwrs, wedi cyfnod yn yr Uwchgynghrair, mae Valley Parade wedi newid yn gyfan gwbl. Mae'r Kop bellach yn eisteddle dau lawr gyda'r gornel rhwng y Kop a'r brif eisteddle wedi ei llenwi â seddi.
Yn anffodus i'r Bantams, mae'r maes wedi ei adeiladu ar ochr llethr ac felly nid yw'n bosib codi eisteddle mor fawr ar y ddwy ochr arall o'r maes ac o'r herwydd mae Valley Parade yn edrych fel dau ran o ddau wahanol stadiwm!
Y broblem arall yw fod y clwb wedi anghofio nad ydynt yn yr Uwchgynghrair bellach - £18 i fynd i fewn a £2.50 am raglen.
Football Ground Guide

« Dolen flaen | Nesaf »
am 10:29 AMRoedd £18 braidd yn ddrud (er ddim mor ddrud a £21 yn Swindon!) ond mi wnes i fwynhau fy ymweliad. Mae'r stadiwm yn edrych yn drawiadol iawn ar ochr y bryn ac yn engrhaifft da o sut gelli'r gwneud y mwyaf allan o ddarn gymharol fychan o dir. Er bod 10,000 yno, a bod yna accoustics gwych yn y ddau eisteddle fawr, llwyddodd cefnogwyr Bradford i wenud dim smic o gwbwl, hyd yn oed pan aethant ar y blaen. Er i Wrecsam fod digon tila o flaen gôl, roeddynt yn haeddu pwynt o leiaf yn fy marn i.
» Post a Comment