Gosod cynsail peryglus
Bu rhaid i Real Madrid wagio Stadiwm y Bernebeau cyn diwedd eu gêm â Real Sociedad neithiwr wedi papur newydd yng Ngwlad y Basg dderbyn rhybudd gan ddyn oedd yn honni ei fod yn rhan o'r grwp terfysgol, ETA.
Wrth gwrs mae hyn yn creu cynsail peryglus wrth i unrhyw granc allu creu trafferthwch lu wrth ffonio â bygythiadau bomb os yw eu tîm yn colli, neu hyd yn oed os ydynt am weld timau eraill yn cael eu trafferthu.
Mae'n anodd iawn gwybod beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau - cafwyd galwad yn rhybuddio am ddyfais ffrwydrol cyn gêm Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr ddwy flynedd yn ôl.
Penderfynodd Real ac Uefa mai peidio ildio i'r terfysgwyr fyddai'r peth gorau ac aeth y gêm yn ei blaen.
Football Guardian
Soccer Spain

« Dolen flaen | Nesaf »
am 12:27 PMMa nhw am chwarae'r 7 munud sydd yn weddill am 6 o'r gloch yr hwyr ar Ionawr 5ed. Rhyfedd iawn jyst troi lan am 7 munud o bel-droed. A be sy'n digwydd os yw un neu fwy o'r chwaraewyr oedd ar y cae pan orffenodd y gem yn cael anaf rhwng nawr a'r gem?
am 1:50 PM
Cwestiwn da a difyr ... hmmmmm
am 2:41 PM
Mae'r Guardian Knowledge wedi gofyn yr un cestiwn - mae'r ateb yma:
http://football.guardian.co.uk/theknowledge/story/0,13854,1374192,00.html
» Post a Comment