Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

fflicio a chicio

Yn ôl Will Buckley yn yr Observer mae Subbuteo yn ffasiynol unwaith eto - i fod yn onest, doeddwn i ddim yn ymwybodol fod o wedi mynd allan o ffasiwn!

Cawsom ni dyddiau os nad wythnosau o hwyl yn chwarae pencampwriaethau Cwpan y Byd yn ty ni yn ystod gwyliau'r haf. Roedd pawb yn cael dau dîm - er 'dwi byth yn cofio gorfod chwarae yn erbyn fi fy hun - a roedd oriau o baratoi cyn dechrau chwarae.

Roedd angen troi tîm Lerpwl yng Ngwlad Belg neu Cymru, roedd Bob Latchford ac Andy Gray o dîm Everton yn trawsnewid i fod yn Paolo Rossi a Claudio Gentile a roedd angen perswadio fy mrawd bach fod Saudi Arabia yn dîm da ac eu bod nhw'n chwarae yn lliwiau Celtic!!
Yna, wedi tynnu'r enwau allan o'r het, roedd angen smwddio'r maes a defnyddio sellotape i'w sticio i'r bwrdd yn y dining room. Byddai'n cymryd tua awr i osod yr eisteddle a'r holl gefnogwyr (a hyd yn oed yn fwy os oedd y ci yn neidio yn erbyn y bwr!) cyn chwilota trwy drôrs y gegin i chwilio am fatris ar gyfer y llif oleadau.

Yna ... roeddem ni'n gallu dechrau chwarae ...!

Observer
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

» Post a Comment