Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cymhlethdod yr MLS

Mae dau glwb newydd yn cychwyn yn yr MLS tymor nesaf, Club Deportivo Chivas USA yn Los Angeles a Real Salt Lake yn Salt Lake City.
Roedd y clybiau newydd yn cael dewis 10 o chwaraewyr yr un o'r 10 clwb presennol yn yr MLS wythnos diwethaf - yr hyn mae'r MLS yn alw yn MLS Expansion Draft!
Dychmygwch Norwich, West Brom neu Crystal Palace yn cael dewis chwaraewyr o Man Utd, Arsenal neu Lerpwl ar ddechrau'r tymor yn Lloegr.
Ar ben hyn oll, mae CD Chivas wedi dewis bachu yr ymosodwr, Arturo Torres, o'u cymdogion yn LA, y Los Angeles Galaxy!

MLS Expansion Draft
CD Chivas USA
Real Salt Lake
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 1:51 PM Blogger Geraint Criddle ddywedodd ...

Cofio darllen am hyn yn WSC mis dwetha, mewn erthygl oedd yn cwestiynu agwedd MLS tuag at eu cynulleidfa Lladin Americanaidd, a sut mae'r ffaith eu bod nhw wedi ceisio apelio at y gynulledifa gwyn eu croen wedi golygu nad ydynt wedi manteisio ar gynulleidfa sy'n gwbl ffanatig am beldroed. Gobeithio y bydd hyn yn golygu newid agwedd.

Franchise o glwb Chivas yn Mecsico yw Chivas USA, a byddan nhw'n rhannu rhai chwaraewyr/adnoddau, felly gobeithio y bydd hynny'n sbardun i roi llais i'r boblogaeth Latino.    



am 3:06 PM Blogger Rhys Wynne ddywedodd ...

Sefyllfa hollol boncyrs, ond yn amlwg mae'n gweithio uddyn nhw (dwi'n meddwl). Dwi'n cymeryd bod y chwaraewyr yn cael penderfynnu os ydynt eisiau symud a'i peidio, os ddim mae'n sefya caled iddynt a'u teuluoedd. Roedd un wedi symud 6 gwaith mewn 8 tymor. O edrych ar wefannau'r ghanol clybie (sydd gyd run-fformat) dyma fi'n dod ar draws yr rhan am gwahanol grwpiau cefnogwyr (gweler un tim D.C. United):
http://dcunited.mlsnet.com/MLS/dcu/load.jsp?section=fans&content=supporters
Ar un llaw mae'n swnio'n cheesy braidd (screaming eagles e.e.), ond ar y llaw arall, byddai gwerthu seddi mewn blociau yn y Milstad yn syniad da. Er nad oes eisiau creu split ymysg cefnogwyr ar hyd llinellau clybiau mewn gemau rhyngwladol, byddai cystadleuaeth ymysg cefnogwyr yn siwr o godi lefel y swn.    



» Post a Comment