Roy of the Rovers
Mae safle we Roy of the Rovers wedi diflannu ...
Roeddwn i'n arfer prynnu'r comic yma yn wythnosol am flynyddoedd maith. Oni bai am Roy a'i helyntion ym Melchester fy hoff stori oedd The Kid From Argentina - hanes Jorge Porbillas gafodd ei arwyddo gan Manton County wedi Cwpan y Byd 1978.
Yn anffodus i Manton County a'u rheolwr, Bert Trubshawe, nid yr Jorge Porbillas enillodd Cwpan y Byd ag Yr Ariannin oedd hwn, ond bachgen 15-mlwydd-oed!
Ac yn anffodus i mi (ac i Porbillas) daeth y stori i ben wedi Prydain fynd i ryfel â'r Ariannin dros Ynysoedd y Falklands ym 1982.

« Dolen flaen | Nesaf »
am 1:48 PMRoedd Cai Jones yn llawer gwell - Roy of the Rovers, jyst gyda 'speech bubbles' Cymraeg wedi'u rhoi yn lle'r rhai Saesneg! Ac roedd e wastad yn dod mâs o ryw drybini ac yn sgorio hat-trick yn erbyn Lloegr. Tuedd? Cymru?
» Post a Comment