Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cynghrair y Pencampwyr - diflas!

Ai fi yw'r unig un sydd wedi diflasu â Chynghrair y Pencampwyr?
Mae'r ffaith fod cymaint o dimau o un gwlad yn cael chwarae yn y gystadleuaeth ynghlwm â'r ffaith fod timau'n chwarae cymaint o gemau yn gystadleuaeth yn golygu bod y rhamant wedi diflannu.

Sawl gwaith mae Manchester United wedi chwarae Juventus yn y blynyddoedd diweddar, a sawl gwaith fyddai yr un o'r ddau dîm yn gystadleuaeth petai Uefa wedi cadw at y system gwreiddiol go iawn o bencampwyr yn unig?

Mae'n jôc, hefyd, i glywed sylwebwyr yn dweud pethau fel "... and Ruud van Nistelrooy become's United's top goal scorer in Europe" neu "... Gary Neville has played in Europe more times than any other player in the club's history".

Wel gan eu bod yn cael chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop hyd yn oed wedi gorffen yn drydydd yn y gynghrair, a chan eu bod yn chwarae llond trol o gemau pob tymor, mae'n blymin' amlwg eu bod am sgorio a chwarae mwy na chwaraewyr fel Dennis Law a George Best.
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »
| Nesaf »

am 1:58 PM Anonymous Anonymous ddywedodd ...

ia ond cofio mae y champions league yn dod a pres mawr i'r clybiau mawr greedy ac yn rhoi cyfle i ni wirioneddu ar coverage uffernol itv

dim yn trafferthu gwylio'r farce yma o gystadleuaeth bellach - mae gen i ofn bod y champions league yn lladd peldroed    



» Post a Comment