Sparky'n mynd?
Er dweud nad oedd am droi ei gefn ar ei wlad, mae'n debyg fod Mark Hughes am adael ei swydd fel y rheolwr cenedlaethol er mwyn cymryd yr awenau â Blackburn Rovers.
Allai'm dweud fy mod i'n poeni'n ormodol gan fod ei dactegau ar y maes wedi bod yn rhai gwan iawn byth ers gêm Serbia oddi cartref.
Ydi, mae o wedi codi safon a phroffesiynoldeb yr FAW oddi ar y maes, ac roedd angen gwneud hynny, ond nid yw ei record ar y maes â Chymru mor ddisglair a mae rhai yn ei feddwl. Oni bai am y fuddugoliaeth wych yn erbyn Yr Eidal, dim ond Azerbaijan (ddwywaith) a'r Ffindir wyddodd Cymru i drechu yng ngemau rhagbrofol Ewro 2004.
Record Mark Hughes â Chymru
Ch 33 E 10 Cyf 15 Coll 9
Ac ar ben hyn, mae Cymru wedi mynd 9 gêm ragbrofol heb ennill gêm - y tro diwethaf i ni ennill gêm gystadleuol oedd yn erbyn Azerbaijan ar 29 Mawrth, 2003.
Y cwestiwn mawr, rwan, yw pwy fydd yn olynu Hughes?

« Dolen flaen | Nesaf »
» Post a Comment